Roedd y gĹľyn yn ymwneud ââr ffordd y gwnaed penderfyniad yn 2022 ynghylch cymhwysedd ar gyfer cludiant am ddim iâr ysgol mewn perthynas â disgyblion ag anableddau ac anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Codwyd pryder hefyd nad oedd polisi cludiant ysgol y Cyngor (ây Polisiâ) yn adlewyrchuâr darpariaethau ym Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (ây Mesurâ) naâr Canllawiau Gweithredol yn briodol.
Nododd yr Ombwdsmon bod diffyg eglurder ym mhenderfyniad y Cyngor ynghylch yr apĂŞl yn yr achos hwn aâi fod wedi defnyddio’r term âyn Ă´l disgresiwnâ yn anghywir yng nghyswllt ei ystyriaeth o’r cais. Roedd y Cyngor wedi cydnabod hyn ac ymddiheurodd i’r ymgeisydd.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Polisi yn dangos bod darparu cludiant ysgol ar gyfer disgyblion ag ADY yn dod o dan y darpariaethau yn Ă´l disgresiwn yn hytrach naâr darpariaethau statudol. Fodd bynnag, gallai geiriad y Polisi fod yn llawer cliriach er mwyn adlewyrchuân gywir y gofynion cludiant sydd wedi’u nodi yn y Mesur ar gyfer disgyblion ag anableddau.
Felly cytunodd y Cyngor i wneud y canlynol:
O fewn 1 mis
⢠Ysgrifennu dogfen ganllaw yn rhoi manylion am ddyletswyddauâr Cyngor aâi broses ar gyfer ystyried ceisiadau am gludiant ysgol i fyfyrwyr anabl/ADY, gan ystyried darpariaethau a geiriad y Mesur aâr Canllawiau Gweithredol. Y nod yn hyn o beth yw helpu ymgeiswyr a dylai fod ar gael ar ei wefan ar yr un dudalen ââi Bolisi Cludiant Ysgol.
⢠Edrych ar sut i wella’r esboniadau ar gyfer ei benderfyniadau am gludiant ysgol, er mwyn sicrhau bod y geiriad aâr esboniadau yn glir i’r ymgeiswyr o ran yr hyn a gafodd ei ystyried a sut y daethpwyd iâr penderfyniad. Dylai hyn gynnwys cyfeiriadau at ddeddfwriaeth, canllawiau a pholisĂŻau perthnasol.