Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty : Brwdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg – PSOW Cymraeg

Report Date

01/09/2023

Subject

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Case Reference Number

202300236

Outcome

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Miss W am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei mab, Mr X, pan oedd yn Ysbyty Tywysoges Cymru (“yr Ysbyty”) rhwng 14 Ionawr a 22 Ionawr 2023. Cwynodd yn benodol y dylai Mr X fod wedi cael ei dderbyn i’r Ysbyty pan aethpwyd ag ef yno ar 4 achlysur o ganlyniad i ymddygiad hunan-niweidiol oedd yn cynnwys ceisio crogi ei hun.

Canfu’r Ombwdsmon bod Mr X wedi cael ei asesu’n briodol pan aeth i’r Ysbyty ac y rhoddwyd cynlluniau rhesymol ar waith i’w gadw’n ddiogel yn y gymuned. Roedd yr Ysbyty hefyd wedi rhagnodi meddyginiaeth briodol ar ei gyfer. Felly, ni chadarnhawyd y gĹľyn hon.