Cwynodd Mr A am y gofal aâr driniaeth a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (ây Bwrdd Iechydâ). Dywedodd Mr A ei fod wedi datblygu sepsis ond nid oedd yn teimlo bod hyn wedi digwydd rhwng cael ei ryddhau i’w gartref aâi dderbyn yn Ă´l iâr ysbyty ddiwrnod yn ddiweddarach. Cwynodd fod y Bwrdd Iechyd wedi methu canfod y sepsis cyn ei ryddhau.
Nododd yr Ombwdsmon fod Mr A wedi cwyno i’r Bwrdd Iechyd ym mis Medi 2022 am elfennau o’i ofal ac nad oedd wedi cael ymateb. Fodd bynnag, nododd yr Ombwdsmon nad oedd Mr A wedi codiâr mater yn ymwneud â sepsis yn benodol. Felly nid oedd y Bwrdd Iechyd wedi cael cyfle i ymateb cyn i’r materion gael eu dwyn i’w sylw.
Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i roi ymateb ysgrifenedig i bryderon Mr A o fewn 30 diwrnod gwaith. Derbyniwyd y cam hwn fel dewis arall yn lle ymchwiliad.