Cwynodd Mrs A am weithredoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (ây Bwrdd Iechydâ) yng nghyswllt y gofal a ddarparwyd iâw diweddar fam, Mrs B. Yn benodol, cwynodd Mrs A nad oedd anghenion Mrs B (fel y nodwyd yn ei Chynllun Gofal) wedi cael eu diwallu, roedd methiant i sicrhau bod asesiadau priodol yn cael eu cynnal mewn modd amserol a bod y broses o’i dychwelyd iâw chartref ei hun wedi cael ei ohirioân amhriodol ac yn afresymol, a bod hynny i gyd wedi effeithio ar ei hiechyd aâi lles.
Ar ben hynny, cwynodd Mrs A am y gofal a gafodd Mrs B o gartref gofal yn ardal y Bwrdd Iechyd (ây Cartref Gofalâ) gan nad oedd y Cartref Gofal, rhwng 1 a 28 Tachwedd 2020, yn diwallu anghenion Mrs B (fel y nodwyd yn ei Chynllun Gofal) ac nad oedd yn sicrhau bod ei staff yn defnyddio Cyfarpar Diogelu Personol (âPPEâ) yn briodol ac yn unol â deddfwriaeth a chanllawiau.
Canfuâr Ombwdsmon fod rhai diffygion ar ran y Bwrdd Iechyd aâr Cartref Gofal o ran diwalluâr anghenion a nodir yn y Cynllun Gofal, ond bod hyn yn bennaf oherwydd y mesurau sydd eu hangen i atal trosglwyddoâr haint COVID-19. Nid oedd yr Ombwdsmon yn cadarnhauâr cwynion hyn. Canfuâr Ombwdsmon, er bod asesiadau priodol wediâu cwblhau, y bu oedi y gellid bod wedi’i osgoi yn y broses asesu a rhyddhau ac felly, iâr graddau hynny, cadarnhaodd y gĹľyn hon. Canfuâr Ombwdsmon hefyd, am gyfnod traâr oedd Mrs B yn y Cartref Gofal, a thraâr oedd yn cael ei nyrsio mewn gwely, nad oedd y Cartref Gofal yn cadw at ei Chynllun Gofal.
Canfuâr Ombwdsmon hefyd, er nad oedd yn bosib dweud i ba raddau yr oedd hyn yn wir, nad oedd y cyfarpar diogelu personol cywir yn cael ei wisgoân briodol yn ardaloedd cymunedol y Cartref Gofal. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gĹľyn hon.
Argymhellodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd aâr Cartref Gofal, o fewn 1 mis, yn ymddiheuro i Mrs A am y methiannau a nodwyd.