Cwynodd Ms A am y gofal aâr rheolaeth a gafodd ei diweddar dad, Mr A, pan aeth i Adran Achosion Brys (âABâ) Ysbytyâr Tywysog Siarl (âyr Ysbytyâ) yn dilyn atgyfeiriad gan ei feddyg teulu. Roedd hyn yn cynnwys y Meddyg Ymgynghorol AcĂwt (ây Meddyg AcĂwtâ) yn methu ymchwilioân ddigonol i gyflwr ei thad na rhoi diagnosis oâi niwmonia. Petai hyn wedi digwydd, dywedodd ei bod yn teimlo y gallai ei farwolaeth fod wedi ei hatal. Roedd Ms A hefyd yn anfodlon ââr ffordd yr oedd y Bwrdd Iechyd wedi delio ââi chĹľyn.
Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod cyfleoedd clir i drin Mr A wedi cael eu colli yn ystod ei ymweliad ââr Adran Achosion Brys. Ni allaiâr Ombwdsmon ddiystyruâr posibilrwydd, pe na bai Mr A wedi cael ei ryddhau, y gallai achos ei haint ar yr ysgyfaint fod wedi cael ei ddiagnosio aâi drin yn gynt â gwrthfiotigau. Daeth iâr casgliad bod y diffygion clinigol yng ngofal a rheolaeth Mr A yn fethiant difrifol yn y gwasanaeth ac, o ganlyniad, bod Mr A aâi deulu wedi dioddef anghyfiawnder sylweddol. Nid oedd yn bosib gwybod a fyddai hyn wedi arwain at ganlyniad gwahanol, fodd bynnag, roedd colli cyfle wedi creu ansicrwydd iâr teulu. Cafodd yr elfen hon o gĹľyn Ms A ei chadarnhau.
Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod y staff meddygol a nyrsio yn ymwybodol o glefyd Huntington, ac nid oedd hyn wedi arwain at oedi cyn rhoi meddyginiaeth poen i Mr A. Fodd bynnag, canfuâr ymchwiliad nad oedd Mr A wedi cael asesiad poen ac felly nid oedd yn bosib dweud yn bendant nad oedd Mr A mewn poen bob amser. Daeth yr Ombwdsmon iâr casgliad bod hyn yn fethiant o ran gofal nyrsio sylfaenol a chadarnhaodd yr agwedd hon ar gĹľyn Ms A.
Nododd yr Ombwdsmon hefyd gofnodion gwael gan y Meddyg AcĂwt a gyfrannodd at broses ryddhau anniogel ac a oedd yn is naâr gofynion disgwyliedig a amlinellwyd mewn canllawiau a luniwyd gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol.
Canfuâr Ombwdsmon hefyd nad oedd agweddau ar ymateb y Bwrdd Iechyd iâr gĹľyn yn ddigon manwl a thrylwyr ac o ystyried y methiannau gweinyddol a nodwyd, cafwyd canfyddiadau o gamweinyddu wrth gynnal yr agweddau hyn ar gĹľyn Ms A.
Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon gĹľyn Ms A am nitrofurantoin, gan ei bod yn feddyginiaeth gydnabyddedig i drin heintiau wrinol rheolaidd ac nad oedd symptomau Mr A yn cyd-fynd ââr cyflyrau ar yr ysgyfaint yr oedd Ms A wediâu disgrifio nac ychwaith wedi nodi materion cyfathrebu y daeth yr ymchwiliad iâr casgliad eu bod yn rhesymol ac yn briodol.
Ymysg yr argymhellion a wnaeth yr Ombwdsmon oedd y dylaiâr Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Ms A aâr teulu a chymryd camau pellach i hwyluso dysgu, fel rhannuâr adroddiad ââi Gyfarwyddwr Clinigol er mwyn iâr clinigwyr perthnasol allu myfyrio ar y canfyddiadau, yn ogystal ââr Pwyllgor Ansawdd a Diogelwch aâr Cyfarfod Diogelwch Cleifion.