Cwynodd Mrs T am y gofal aâr driniaeth a gafodd traâr oedd ei beichiogrwydd yn dod i ben yn 2021. Cwynodd yn benodol na chafodd yr opsiwn o gael terfynu ei beichiogrwydd fel claf mewnol ar 13 Medi a’i bod wedi cael cyngor i gysylltu ââr Gwasanaeth Iechyd Rhywiol. Cwynodd pan aeth iâr Adran Achosion Brys ar 26 Medi fod oedi amhriodol wedi bod cyn iddi gael triniaeth a buân rhaid iddi deithio i Ysbyty Glangwili (âyr Ysbytyâ) mewn car gan nad oedd ambiwlans ar gael er ei bod yn rhy sâl i wneud hynny. Cwynodd hefyd ei bod, ar 29 Medi, wediâi asesuân anghywir o ran bod ei beichiogrwydd wedi’i derfynu’n gyflawn a bod oedi, tan 7 Hydref, cyn iddi gael sgan i gadarnhau bod y terfyniad wedi methu.
Canfuâr ymchwiliad ei bod yn rhesymol i Mrs T gael ei chynghori i gysylltu ââr Gwasanaeth Iechyd Rhywiol i drafod ei hopsiynau terfynu. Ni chafodd yr agwedd hon ar y gĹľyn ei chadarnhau. Canfuâr ymchwiliad hefyd fod oedi cyn i Mrs T gael meddyginiaeth lleddfu poen pan aeth iâr Adran Achosion Brys. Dylid hefyd bod wedi gwrando ar ei sylwadau cyn iddi gael ei throsglwyddoân annibynnol iâr Ysbyty, er mwyn sicrhau ei bod yn ddiogel iddi wneud hynny, a dylai fod wedi cael yr opsiwn o aros am ambiwlans iâw throsglwyddo. Cafodd yr agwedd hon ar y gĹľyn ei chadarnhau. Yn olaf, canfuâr ymchwiliad fod Mrs T wedi cael ei hasesu aâi thrin yn briodol pan gafodd ei derbyn iâr Ysbyty rhwng 26 a 29 Medi. Fodd bynnag, dylai fod wedi cael ei rheoliân lleol yn yr Ysbyty pan roddodd wybod am symptomau parhaus. Cafodd yr agwedd hon ar y gĹľyn ei chadarnhau iâr graddau hynny.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i weithredu argymhellion yr Ombwdsmon ac ymddiheuro i Mrs T am y methiannau a nodwyd a thalu iawndal o ÂŁ500 am yr anesmwythder aâr gofid a achoswyd gan y methiannau hyn. Cytunodd i rannu’r adroddiad gyda’r staff perthnasol ac atgoffa staff yn yr Adran Achosion Brys o bwysigrwydd asesu poen a gweinyddu meddyginiaeth lleddfu poen yn amserol. Cytunodd hefyd i ystyried datblygu canllawiau lleol ar gyfer trosglwyddo rhwng ysbytaiân annibynnol ac adolygu pa mor briodol yw llwybrau i gleifion syân terfynu eu beichiogrwydd a phroblemau beichiogrwydd cynnar.