Cwynodd Mr X, ar Ă´l biopsi ym mis Hydref 2020, a oedd yn cadarnhau bod ganddo ganser ymosodol ar y prostad, nad oedd y Bwrdd Iechyd yn gallu rhoi dyddiad ar gyfer llawdriniaeth iddo. Oherwydd pryderon Mr X am effaith yr oedi, gofynnodd am driniaeth breifat a chafodd driniaeth prostadectomi (llawdriniaeth i dynnuâr prostad) ar 6 Rhagfyr 2020.
Mae gan y Bwrdd Iechyd gontract ag Ymddiriedolaeth yn Lloegr (âyr Ymddiriedolaethâ) i ddarparu triniaethau prostadectomi i gleifion Byrddau Iechyd; roedd Mr X i fod i gael asesiad dros y ffĂ´n (âyr ymgynghoriadâ) gydag ysbyty dynodedig yr Ymddiriedolaeth (âYsbytyâr Ymddiriedolaethâ) ar 20 Tachwedd 2020. Bryd hynny, cadarnhaodd y Bwrdd Iechyd, os oedd claf yn mynd ymlaen i gael llawdriniaeth, bod hyn yn digwydd tua 2-3 wythnos ar Ă´l yr ymgynghoriad. Fodd bynnag, ar Ă´l yr apwyntiad preifat ar 10 Tachwedd, penderfynodd Mr X ddewis llawdriniaeth breifat a chysylltodd ââr Bwrdd Iechyd ar 17 Tachwedd i gansloâr ymgynghoriad. Cafodd lawdriniaeth ar 6 Rhagfyr.
Canfuâr Ombwdsmon mai dewis Mr X oedd cael triniaeth breifat. Fodd bynnag, gan fod Mr X wedi penderfynu cansloâr ymgynghoriad gydag Ysbytyâr Ymddiriedolaeth, nid oedd yn bosib gwybod pa wybodaeth/camau gweithredu fyddai wedi cael eu cymryd yn dilyn yr ymgynghoriad. Gan nad oedd Mr X wedi cael llawdriniaeth breifat erbyn yr ymgynghoriad, ni fyddai wedi bod yn afresymol disgwyl iddo fod wedi cael yr ymgynghoriad; pe bai wedi cael gwybod na ellid cynnig dyddiad ar gyfer llawdriniaeth yn y dyfodol agos, maeân bosib y byddaiâr Ombwdsmon wedi dod i gasgliad gwahanol. Fodd bynnag, gan nad oedd Mr X wedi mynd iâr ymgynghoriad, ni allaiâr Ombwdsmon wybod a fyddai wedi cael dyddiad ar gyfer llawdriniaeth.