Cwynodd Mr A nad oedd ei landlord, Coastal Housing Group Ltd (ây Gymdeithasâ), wedi gweithredu a / neu wedi methu ââi ddiweddaru ar ei gwynion o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (ASB) yn erbyn ei gymydog, oedd hefyd yn denant iâr Gymdeithas. Roedd hyn yn cynnwys ymosod ar Mr A ac felly roedd eisiau iâr Gymdeithas droi ei gymydog allan oâi eiddo. Cwynodd Mr A hefyd ei fod wedi gofyn am gael symud ar sail diogelwch a theimlai fod y Gymdeithas, a hynny ar gam, wedi gwrthod ei symud o dan ei Bolisi Gosod (ây Polisiâ).
Mae pwerauâr Ombwdsmon wedi eu cyfyngu i faterion tai ac ni all gyfarwyddo landlord yn uniongyrchol i droi rhywun allan nag ychwaith gyfarwyddo bod rhywun yn cael eu symud yn syth. Ar Ă´l ystyried y gĹľyn, daeth yn glir fod y Gymdeithas yn parhau i ymchwilio iâr ASB ac yn symud at gymryd camau cyfreithiol. Dywedodd nad oedd Mr A yn bodloniâr meini prawf ar gyfer cael ei symud ar sail diogelwch o dan y Polisi (penderfyniad ar sail disgresiwn), fodd bynnag teimlaiâr Ombwdsmon nad oedd y rhesymau dros hynny wedi eu hesbonioân iawn i Mr A. Yn lle ymchwiliad felly, cytunodd y Gymdeithas i gymryd y camau canlynol i setloâr gĹľyn (o fewn un mis):
(a) Ymddiheuroân ysgrifenedig wrth Mr A am y methiant i gyfathrebu aâi ddiweddaruân ystyrlon ar yr ymchwiliad ASB.
(b) Ei ddiweddaru ymhellach bob mis am gyn hired ag y boâr mater yn parhau.
(c) Rhoi esboniad ysgrifenedig ystyrlon i Mr A ynghylch pam y penderfynwyd nad oedd yn bodloniâr trothwy ar gyfer cael ei symud ar sail diogelwch.