Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Apwyntiadau/derbyniadau/gweithdrefnau cyflawniad a throsglwyddo : Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro – PSOW Cymraeg

Report Date

16/07/2021

Subject

Apwyntiadau/derbyniadau/gweithdrefnau cyflawniad a throsglwyddo

Case Reference Number

202101648

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A fod Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (“y Practis”) wedi methu â darparu gwasanaeth digonol iddi fel claf. Dywedodd ei bod wedi ffonio’r Practis sawl gwaith dros y 9 mis diwethaf, ond nad oedd y staff erioed wedi ateb ei galwadau.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd wedi derbyn gwasanaeth gan y Practis. Roedd hefyd yn cydymdeimlo â’r Practis a oedd, yn ôl pob golwg, wedi bod yn y broses o gyflogi staff newydd i ateb y gofynion a oedd arno.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Practis ynghylch yr agwedd ar gŵyn Mrs A a oedd yn ymwneud ag ymateb dros y ffôn.

Cytunodd y Practis i wneud y canlynol:

• Darparu enwau dau aelod staff y gall Mrs A gysylltu â nhw dros ei linell ffôn, a fydd yn trefnu ymgynghoriad dros y ffôn gyda meddyg teulu iddi cyn apwyntiad.

Cytunwyd i wneud hyn o fewn 20 diwrnod gwaith i ddyddiad y llythyr hwn.

Mae’r Ombwdsmon yn credu y bydd hyn yn datrys cwyn Mrs A.