Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Ceisiadau. Dyraniadau. Trosglwyddo a chyfnewidiadau : Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam – PSOW Cymraeg

Report Date

06/03/2023

Subject

Ceisiadau. Dyraniadau. Trosglwyddo a chyfnewidiadau

Case Reference Number

202207156

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss X am y ffaith bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi ei rhoi ar y rhestr fer ar gyfer 3 eiddo anaddas a’i fod wedi methu gwrando ar ei phryderon ynghylch addasrwydd yr eiddo.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi cyfaddef i fethiannau ac wedi ymddiheuro, nad oedd wedi darparu esboniad clir yn ôl yr angen i egluro beth oedd wedi mynd o’i le. Gwnaeth hyn i Miss X deimlo dan straen ac achosodd iddi boeni am yr ansicrwydd.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Cyngor ac er mwyn datrys cwyn Miss X, cytunodd y dylai, o fewn 20 diwrnod gwaith, ddarparu esboniad llawn ac eglur ynghylch y dryswch o ran mesuriadau ffrâm y drws yn Eiddo 3, ynghyd ag ymddiheuriad am yr oedi cyn rhoi gwybod i Miss X bod yr eiddo wedi cael ei gynnig mewn camgymeriad. Byddai’r Cyngor hefyd yn cynnig taliad ewyllys da o £250 eto