Cwynodd Mrs T fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â darparuâr pecyn gofal iechyd parhaus y GIG (âNHSCHCâ y cytunwyd arno â pecyn gofal a drefnwyd ac a ariennir gan y GIG) ar gyfer ei gĹľr rhwng mis Mawrth 2020 aâi farwolaeth ym mis Ionawr 2021.
Roedd Mr T wedi bod yn derbyn 16 awr o ofal yr wythnos (2 x 8 awr) o fis Mai 2018, yn dilyn llawdriniaeth ar gyfer canser y gwddf. Canfuâr Ombwdsmon, yn dilyn llawdriniaeth bellach ym mis Ionawr 2020, daeth asesiad iâr casgliad nad oedd unrhyw newid yn ei gyflwr a bod angen yr un lefel o gymorth arno o hyd. Fodd bynnag, methodd y Bwrdd Iechyd â chynllunio’n effeithiol ar gyfer rhyddhau Mr T o’r ysbyty ac ni allai ddod o hyd i’r lefel o ofal yr oedd ei angen arno. Roedd Mr T yn derbyn ar y mwyaf, 9 awr o ofal yr wythnos, yn cynnwys blociau o 3 awr. Canfuâr Ombwdsmon fod hyn yn gyfystyr â methiant gwasanaeth a achosodd anghyfiawnder sylweddol i Mr a Mrs T, a chynhaliwyd y gĹľyn.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylaiâr Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mrs T, yn ogystal ag adolygu ei broses gomisiynu i sicrhau cynllunio rhagweithiol, aâr system o reolaeth ariannol pecynnau gofal.