Cwynodd Mr X am fethiant Cyngor Sir Caerfyrddin (ây Cyngorâ) i roi copi iddo o adroddiad a wnaed gan Ymchwilydd Annibynnol (âIIâ) am gyfnod o 12 mis. Dywedodd Mr X fod yr adroddiad yn cynnwys gwallau, ac na chafodd gyfle i adolygu adroddiad drafft, i gywiroâr rhain. Yn olaf, mynegodd Mr X bryderon ynghylch annibyniaeth yr II, a dywedodd fod yr adroddiad yn rhagfarnllyd yn ei erbyn, aâi fod yn cynnwys sylwadau amhriodol.
Canfuâr Ombwdsmon fod methiant ar ran y Cyngor i ddarparu copi o adroddiad yr II i Mr X, ac nad oedd ond wedi ei ddarparu iddo ar Ă´l iddo gysylltu ââi swyddfa. Hefyd, canfu na chafodd Mr X gyfle i gywiro gwallau ffeithiol yn adroddiad yr II. Yn olaf, nid oedd y Cyngor wedi hysbysu Mr X, pa rai, os o gwbl, oâr argymhellion yn adroddiad yr II oedd wediâu rhoi ar waith.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gymryd y camau canlynol:
O fewn 20 niwrnod gwaith:
⢠Ymddiheuroân ystyrlon i Mr X, ynghyd ag esboniad llawn am y methiant i roi adroddiad yr Ymchwilydd Annibynnol iddo am gyfnod o 12 mis.
⢠Ystyried sylwadau Mr X am yr anghywirdeb ffeithiol yn adroddiad yr Ymchwilydd Annibynnol aâu hatodi iâr adroddiad (fel bod un ddogfen yn cael ei llunio) gydag atodiad y dylai unrhyw un syân cael yr adroddiad ystyried ei gyflwyniad ar yr un pryd.
⢠Rhoi esboniad manwl i Mr X, gan amlinelluân llawn pa rai (os o gwbl) o argymhellion yr Ymchwilydd Annibynnol a oedd wedi eu rhoi ar waith, a oedd heb eu gweithredu (aâr amserlen ar gyfer eu cwblhau) a manylion unrhyw welliannau ychwanegol a wnaed i Wasanaeth Cynllunioâr Cyngor.
⢠Ymddiheuroân ystyrlon am y methiant i ymchwilio i gĹľyn wreiddiol Mr X (y deliwyd ag ef yng Ngham 2 ym mis Medi 2020) yn briodol.