Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy’r tŷ. Ffenestri dwbl) : Cyngor Abertawe – PSOW Cymraeg

Report Date

08/03/2023

Subject

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Case Reference Number

202206604

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X fod Cyngor Abertawe (“y Cyngor”) wedi methu datrys pla llygod mawr yn ei heiddo, ar ôl iddi godi cwyn amdano ddiwethaf ym mis Awst 2022.

Canfu’r asesiad fod ymdrechion y Cyngor i ddatrys y pla wedi bod yn annigonol. Yn lle ymchwilio, ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gynnal arolwg camera a chau’r bwlch mewn wal geudod. Cytunodd y Cyngor hefyd i gael gwared ar yr holl ddeunydd inswleiddio sydd wedi’i halogi a’i ddisodli a glanhau’r gofod lle roedd estyll y llawr wedi cael eu codi cyn eu newid.

Cytunodd y Cyngor i gwblhau’r camau hyn o fewn 6 wythnos.