Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy’r tŷ. Ffenestri dwbl) : Cyngor Caerdydd – PSOW Cymraeg

Report Date

25/03/2022

Subject

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Case Reference Number

202106845

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A fod y Cyngor, ym mis Gorffennaf 2021, wedi cytuno i wneud gwaith atgyweirio yn y gegin a oedd yn dal heb ei wneud. Roedd hyn er gwaethaf cysylltu ddwywaith wrth wella ar ôl salwch difrifol. Roedd Miss A hefyd yn bryderus ynghylch camgymeriad yn ymateb ffurfiol y Cyngor i gwynion.
Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus ynghylch yr amser a gymerwyd i gwblhau’r atgyweiriadau ac nad oedd esboniad wedi ei roi am y camgymeriad yn yr ymateb i’r gŵyn. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn.
Ceisiodd a sicrhaodd gytundeb y Cyngor i wneud y gwaith atgyweirio ar ddyddiad penodol. Yn ogystal, o fewn pythefnos, esbonio’r camgymeriad yn ei ymateb i’r gŵyn, darparu ymddiheuriad priodol a chynnig taliad amser a thrafferth o £250 i gydnabod y trallod ychwanegol a achoswyd.