Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy’r tŷ. Ffenestri dwbl) : Grŵp Cynefin – PSOW Cymraeg

Report Date

09/03/2022

Subject

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Case Reference Number

202105641

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X nad oedd ei landlord, Grŵp Cynefin, wedi rhoi gwybod iddo fod gwaith strwythurol yn cael ei wneud mewn eiddo sydd ynghlwm. Aeth y gwaith yn ei flaen am saith mis i gyd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw ni chafodd ddyddiad gorffen ar gyfer y gwaith, ac roedd dryswch ynghylch amser dechrau’r gwaith adeiladu bob bore.
Derbyniodd Grŵp Cynefin fod diffygion yn ei drefniadau cyfathrebu a’i drefniadau gyda Mr X. Dywedodd ei fod wedi dysgu am y profiad ac y byddai unrhyw waith o’r maint hwn yn y dyfodol yn cael ei drin yn wahanol.
Cytunodd:
• Archwilio materion a godwyd ynghylch y ffens derfyn, a gwneud y gwaith adfer angenrheidiol;
• Gwneud taliad ex gratia i Mr X o £750, o fewn mis, i adlewyrchu’r aflonyddwch a’r anhwylustod, yn ogystal â’r taliad o £250 a wnaed iddo tra’r oedd y gwaith yn dal i fynd rhagddo