Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy’r tŷ. Ffenestri dwbl) : Tai Cymunedol Bron Afon – PSOW Cymraeg

Report Date

14/06/2021

Subject

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Case Reference Number

202006074

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X nad oedd Cartrefi Cymunedol Bron Afon (“y Gymdeithas Dai”) wedi gwneud gwaith trwsio yn ei chartref. Dywedodd ei bod wedi bod yn cael problemau ers nifer o flynyddoedd.

Nododd yr Ombwdsmon bryderon Ms X a gofynnodd i’r Gymdeithas Dai gymryd camau i ddatrys y gŵyn. Cytunodd y Gymdeithas Dai i wneud y canlynol:

· Ymweld â’i chartref ym mis Mehefin 2021 i ganfod pa waith trwsio sydd angen ei wneud.

· Gwneud gwaith trwsio i’r estyll ffasgia a’r cafnau a’r pibelli glaw gan gynnwys unrhyw waith trwsio sydd ei angen i wneud yn siŵr nad oes dim glaw yn dod i mewn drwy’r to.

· Rhoi blaenoriaeth i eiddo Ms X yn ei raglen adnewyddu toeau ar gyfer eiddo yn yr ardal, a fydd yn cychwyn fis Ebrill 2022.

· Cynnig iawndal ariannol o £125 i gydnabod ei hamser a’r drafferth o fynd ati i gwyno.

· Anfon llythyr o ymddiheuriad ati am y ffordd roedd wedi delio â’r achos.