Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy’r tŷ. Ffenestri dwbl) : Tai Cymunedol Bron Afon – PSOW Cymraeg

Report Date

30/09/2022

Subject

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Case Reference Number

202203649

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss H, ar ôl cytuno i gyfnewid eiddo cydfuddiannol gyda’r Gymdeithas, ei bod yn teimlo bod y safon yn isel ac nad oedd yr eiddo newydd yn cwrdd â’r safonau yr oedd hi’n eu disgwyl, a bod y Gymdeithas wedi methu â chwblhau archwiliad trylwyr o’r eiddo y gwnaeth hi dderbyn.

Roedd yr Ombwdsmon yn pryderu bod Miss H yn cael problemau gyda safon ei heiddo ac fe gysylltwyd â’r Gymdeithas. Fel dewis amgen yn lle ymchwiliad, cytunodd y Gymdeithas y byddai, erbyn 11 Tachwedd 2022, yn ysgrifennu at Miss H ac yn ei chynghori am y gwaith sydd i gael ei gwblhau, ynghyd ag amserlen ar gyfer y gwaith. Yn ogystal, cytunodd y byddai’n adnewyddu lloriau’r ystafell ymolchi a’r toiled y llawr gwaelod, ac yn trwsio’r twll yn y toiled erbyn yr un dyddiad.