Cwynodd Ms D am benderfyniad Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd aâr Fro i dynnu ei henw oddi ar ei restr cleifion. Dywedodd nad oedd y Practis wedi gwneud y penderfyniad hwnnwân briodol am ei fod wediâi wneud cyn trafod ei bryderon â hi, cyn rhoi rhybudd iddi a chyn ystyried yr holl ffeithiau perthnasol.
Canfuâr Ombwdsmon nad oedd y Practis wedi gwneud ei benderfyniad i dynnu enw Ms D oddi ar ei restr cleifion yn briodol. Daeth yr Ombwdsmon iâr casgliad hwnnw, yn achos y broses benderfynu, am bedwar rheswm. Yn gyntaf, roedd oâr farn nad oedd gan y Practis wybodaeth lawn am y ffeithiau. Yn ail, nid oedd yn fodlon ei fod wedi ystyried rhoi rhybudd i Ms D yn unol ââr canllaw perthnasol. Yn drydydd, roedd oâr farn nad oedd wedi cwblhau dadansoddiad digwyddiad sylweddol (ffordd o ddadansoddi digwyddiad yn ffurfiol i ddibenion dysgu), fel syân ofynnol yn Ă´l ei âBolisi Cleifion Treisgar ac Ymosodolâ (ây Polisiâ). Yn olaf, nododd na allai, er gwaethaf deddfwriaeth a chanllawiau perthnasol, gyflwyno unrhyw dystiolaeth ddogfennol neu fideo oâr cyfarfod lle gwnaeth y penderfyniad hwn. Roedd yn teimlo bod y methiannau hyn wedi achosi anghyfiawnder sylweddol i Ms D ar ffurf ansicrwydd a thrallod. Cadarnhaodd gĹľyn Ms D.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylaiâr Practis ymddiheuro i Ms D am gamgymeriadauân ymwneud ââi benderfyniad i dynnu ei henw oddi ar ei restr cleifion ac am ei fethiant i ddangos bod y penderfyniad hwnnw wediâi wneud yn briodol. Gofynnodd iddo hysbysu Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (y corff syân cyflawni dyletswyddau cofrestru Meddygon Teulu ar ran y Bwrdd Iechyd) nad oedd wedi rhoi rhybudd i Ms D, fel y dywedwyd pan ofynnodd iâr Bartneriaeth dynnu enw Ms D oddi ar ei restr cleifion.
Argymhellodd y dylai hefyd ofyn iâr Bartneriaeth ddiweddaru ei gofnodion yn unol â hynny. Gofynnodd iddo ddiwygio ei Bolisi yn sgil y canfyddiadau a nodwyd. Dywedodd y Practis y byddaiân gweithreduâr argymhellion hyn.