Cwynodd Mrs A am sawl mater ynghlwm wrth Glwb sydd gyferbyn ââi heiddo. Roedd ei phryderon yn bennaf ynghylch methiant y Cyngor i gymryd unrhyw gamau gweithredu gorfodi yn erbyn y Clwb.
Daeth yr Ombwdsmon iâr casgliad fod Cyngor Abertawe (ây Cyngorâ) wedi ystyried cĹľyn Mrs A yn briodol, ac eglurodd bod y Clwb wedi bod yno ers sawl blwyddyn, cyn i Mrs A brynu ei heiddo, a dyna pam, o ran cynllunio, doedd dim modd iddo weithredu yn erbyn y Clwb am y materion cynllunio hanesyddol a nodwyd. Ystyriodd yr Ombwdsmon fod ymateb y Cyngor yn fanwl ac yn rhesymol yn hyn o beth.
Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsmon oâr farn y gallaiâr Cyngor fod wedi cymryd rhai camau ynghylch cwynion Mrs A am godi strwythur yn ddiweddar heb ganiatâd cynllunio, a chwynion am niwsans sĹľn nad oedd y Cyngor wediâu datrys yn ffurfiol gan fod y cwynion hyn wedi dod i law yn ystod y cyfnod clo cenedlaethol yn deillio oâr pandemig coronafeirws.
Yn dilyn cyswllt gydaâr Ombwdsmon, cytunodd y Cyngor i ymweld ââr Clwb i ystyried cĹľyn Mrs A am y lloches a godwyd yn ddiweddar a rhoi gwybod iddi am statws yr adeilad o ran cynllunio, a hefyd i asesu ei phryderon sĹľn.