Derbyniodd yr Ombwdsmon gĹľyn gan aelod oâr cyhoedd (âyr achwynyddâ) fod aelod (âyr Aelodâ) o Gyngor Cymuned Tiers Cross (ây Cyngorâ) wedi methu â datgan buddiant mewn mater amgylcheddol/cynllunio, ei fod wedi datgelu gwybodaeth gyfrinachol, ac wedi anfon e-bost at gyflogwr yr achwynydd mewn ymgais i daflu anfri arni.
Roedd yr Ombwdsmon oâr farn bod gan yr Aelod fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu yn y mater amgylcheddol/cynllunio, gan fod y person dan sylw hefyd yn landlord iâr Aelod ac yn berthynas drwy briodas. Canfuâr Ombwdsmon fod yr Aelod wedi methu â datgan buddiant mewn cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ym mis Awst 2020, a oedd yn awgrymu torri paragraff 11(1) oâr Cod Ymddygiad (ây Codâ). Datganodd yr Aelod fuddiant mewn cyfarfodydd fideo a gynhaliwyd ym mis Mawrth a mis Ebrill 2021 ond ni adawodd y cyfarfodydd pan drafodwyd y mater, a oedd yn awgrymu torri paragraff 14(1)(a)(ii) oâr Cod.
Canfuâr Ombwdsmon fod yr Aelod wedi rhannu gwybodaeth a gafodd fel Aelod oâr Cyngor gydaâi landlord, a oedd yn awgrymu torri paragraff 5(a) oâr Cod. Hefyd, anfonodd yr Aelod nifer o negeseuon e-bost am y mater at gyd-aelodau o’r Cyngor, er bod ganddo fuddiant. Roedd y negeseuon e-bost yn feirniadol o’r achwynydd ac yn cefnogi’r person a oedd yn ymwneud â’r materion. Roedd y negeseuon e-bost felly yn rhagfarnu ac yn awgrymu torri paragraffau 7(a) a 14(1)(d) o’r Cod.
Anfonodd yr Aelod hefyd e-bost a oedd yn ffeithiol anghywir yn cwyno am yr achwynydd at ei gyflogwr. Tynnodd yr Aelod ei gĹľyn yn Ă´l pan gafodd wybod am yr anghywirdebau, fodd bynnag, roedd ei ymddygiad wrth anfon y gĹľyn yn awgrymu toriad pellach o baragraffau 7(a) a 14(1)(d) oâr Cod.
Nid oedd yn ymddangos bod ymddygiad cyffredinol yr Aelod yn arwain at unrhyw oblygiadau ehangach i’r Cyngor ac felly nid oedd yn awgrymu torri paragraff 6(1)(a) o’r Cod.
Cymerodd yr Ombwdsmon i ystyriaeth fod yr Aelod wedi ymddiheuro ac wedi tynnu ei gĹľyn yn Ă´l, a’i bod yn ymddangos bod diffyg dealltwriaeth ynghylch buddiannau personol a buddiannau sy’n rhagfarnu o fewn y Cyngor yn ei gyfanrwydd. At hynny, gan na safodd yr Aelod mewn etholiad ym mis Mai 2022, ac nad oedd bellach yn Aelod o unrhyw Gyngor, penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd cyfeirio ei hadroddiad at Bwyllgor Safonau Cyngor Sir Penfro iâw ystyried er budd y cyhoedd.
Pe baiâr Aelod wedi sefyll mewn etholiad a/neu wediâi ail-ethol yna maeân debygol y byddai camau pellach wediâu hystyried.
Yn wyneb y materion sydd wedi codi yn yr achos hwn, argymhellodd yr Ombwdsmon y dylid trefnu hyfforddiant i Aelodau’r Cyngor mewn perthynas â buddiannau personol a buddiannau sy’n rhagfarnu a’u rhwymedigaethau o dan y Cod.