Derbyniodd yr Ombwdsmon gĹľyn gan Aelod o Gyngor Cymuned Llanhiledd ac Abertyleri (ây Cyngorâ) yn erbyn cyd aelod (ar y pryd) (ây Cyn Aelodâ). Honnwyd bod y Cyn Aelod wedi methu â datgan yn briodol fuddiant mewn materion Adnoddau Dynol (âADâ) yn ymwneud â Chyn Glerc y Cyngor aâi fod wedi ennill mantais iddo ei hun yn anmhriodol.
Canfuâr ymchwiliad fod y Cyn Aelod, ar Ă´l iddo dderbyn cyngor anghywir gan Ddirprwy Glerc y Cyngor, wedi methu â datgan buddiant personol neu fuddiant a oedd yn rhagfarnu o ran materion AD a oedd yn ymwneud aâr Cyn Glerc, er bod ymchwiliad yn mynd rhagddo gan yr Ombwdsmon ar yr adeg lle yr oedd cwyn yn erbyn y Cyn Aelod gan y Cyn Glerc. Pleidleisiodd y Cyn Aelod ar gytundeb setlo rhwng y Cyngor aâr Cyn Glerc.
Daeth yr ymchwiliad iâr casgliad y dylaiâr Cyn Aelod fod wedi datgan buddiant personol neu fuddiant a oedd yn rhagfarnu mewn materion a oedd yn ymwneud aâr Cyn Glerc, o ystyried yr ymchwiliad parhaus. Roedd methiant i wneud hynny yn awgrymu torri paragraffau 11 a 14 oâr Cod Ymddygiad.
Ni chanfuâr ymchwiliad fod methiant y Cyn Aelod i ddatgan buddiant personol neu fuddiant a oedd yn rhagfarnu wedi arwain yn uniongyrchol at ennill mantais iddoâi hun. Canfuâr ymchwiliad hefyd nad oedd y dystiolaeth yn cefnogi canfyddiad o âddwyn anfriâ yn groes i baragraff 6(1)(a) oâr Cod Ymddygiad. Roedd gweithredoedd y Cyn Aelod wediâu lliniaruân gryf gan y cyngor anghywir a gafodd mewn perthynas ââi ddyletswydd i beidio â chwarae unrhyw ran yn y penderfyniad. Yn ogystal, nid oedd unrhyw dystiolaeth uniongyrchol bod ei weithredoedd wedi achosi mantais iddoâi hun, a byddaiâr cytundeb wediâi gymeradwyo hyd yn oed pe na baiâr Cyn Aelod wedi cymryd rhan yn y cyfarfod. Daeth iâr casgliad felly nad oedd angen cymryd unrhyw gamau pellach.
Gwnaed argymhelliad iâr Cyngor i aelodau a staff gael hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad, yn enwedig mewn perthynas â buddiannau personol a buddiannau sy’n rhagfarnu, cyn gynted â phosibl.