Cwynodd Mrs A am y camau a gymrodd Gyngor Sir Benfro (ây Cyngorâ) yn dilyn ymosodiad rhywiol ei merch, B. Cwynodd Mrs A fod y Cyngor wedi methu â diogelu B yn unol ââi ddyletswydd statudol, wedi methu ag ystyried a ddylid adolygu / monitro ymateb yr Ysgol i ddiogelu B, ac wedi methu ag ystyried a ddylid adolygu / monitro sut y deliodd yr Ysgol â chĹľyn Mrs A yn Chwefror 2019. Cwynodd Mrs A hefyd fod y Cyngor wedi methu â dilyn ei broses gwynion yn briodol a phrydlon.
Casglodd yr ymchwiliad fod y Cyngor wedi methu â chyfathrebu a rhannu gwybodaeth yn briodol â Mrs A a B yng nghyswllt ei ddyletswyddau statudol, ac wedi methu â rhoi copi o ganlyniad yr ymholiadauân brydlon i Mrs A. Casglodd hefyd fod y Cyngor wedi methu ag ystyried a ddylid adolygu / monitro sut y deliodd yr Ysgol â chĹľyn Mrs A yn Chwefror 2019 ac nad oedd wedi gallu darparu copĂŻau oâr dogfennau adolygu, oedd yn gyfystyr â chamweinyddu. Roedd y methiannau hyn wedi achosi straen, trallod ac anhwylustod sylweddol i Mrs A a B, a achosodd anghyfiawnder iddynt. Casglodd yr ymchwiliad fod cyfleoedd wedi eu colli i gyfeirio Mrs A ymlaen at y Swyddog Cwynion ac na chafodd erioed ei chynghoriân ffurfiol, ac na dderbyniodd unrhyw wybodaeth ysgrifenedig, am sut i wneud cwyn. Achosodd y methiant hwn anghyfiawnder i Mrs A ac nid oedd wedi gallu uwchgyfeirio ei chĹľyn mewn pryd. Ni ymchwiliwyd yn brydlon iâw chwynion ac achosodd hyn straen ac anhwylustod sylweddol i Mrs A wrth iddi barhau i fynd ar Ă´l ei chwynion dros gyfnod o fisoedd / blynyddoedd. Penderfynodd yr Ombwdsmon dderbyn y rhannau hyn oâr gĹľyn. Fodd bynnag, penderfynodd yr ymchwiliad na allaiâr Gwasanaethau Cymdeithasol fod wedi gwneud dim mwy i helpuâr Ysgol i ddiogelu B unwaith y daeth eu dyletswydd i ben aâr cyfrifoldeb wediâi basio iâr Ysgol i fonitroâr sefyllfa. Felly ni dderbyniodd yr Ombwdsmon yr agwedd yma ar gĹľyn Mrs A.
Cytunodd y Cyngor, o fewn un mis, i ymddiheuro wrth Mrs A a B a chynnig talu ÂŁ500 yr un iddynt i gydnabod y trallod a achoswyd iddynt oherwydd y methiannau hyn. Cytunodd hefyd, o fewn un mis, i gynnig talu ÂŁ250 i Mrs A am fethu â thrin ei chĹľyn yn briodol ac i atgoffa holl staff perthnasol y Gwasanaethau Cymdeithasol i roi gwybodaeth i gwsmeriaid am y broses gwynion os yw cwsmeriaid yn mynegi anfodlonrwydd â gwasanaeth. Cytunodd y Cyngor hefyd, o fewn tri mis, i rannuâr adroddiad ââr Cyfarwyddwr Plant ac Ysgolion, y Swyddog Diogelu, aâr Swyddog Cwynion, er mwyn myfyrio arno a thywys ymarfer yn y dyfodol. Cytunodd hefyd i adolygu ei daflen ffeithiau ar Adran 47 Ymchwiliadau Amddiffyn Plant, i sicrhau ei bod yn cynnwys gwybodaeth lawn am y prosesau syân cael eu dilyn gan y Gwasanaethau Cymdeithasol pan wneir atgyfeiriad atynt yn awgrymu y gallai plentyn fod mewn perygl.