Derbyniodd yr Ombwdsmon gĹľyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Bwrdeistref Siriol Conwy (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad (ây Codâ) trwy gymryd rhan a phleidleisio mewn cyfarfod oâr cyngor, a fynychodd yn rhithiol, wrth ymddangos ei fod yn gyrru.
Ystyriodd ymchwiliad yr Ombwdsmon a oedd yr Aelod wedi torriâr cod drwy ddwyn anfri ar ei swyddfa neu ei awdurdod.
Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor, gan gynnwys cofnodion o gyfarfod perthnasol y Cyngor a fideos oâr digwyddiad a arweiniodd at y gĹľyn. Cafwyd gwybodaeth hefyd gan yr Aelod aâr Heddlu.
Roedd y fideo o gyfarfod cyntaf y Cyngor yn dangos yr Aelod yn gyrru cerbyd wrth gymryd rhan yn y cyfarfod a chydnabuâr Aelod mai dyma oedd yr achos. Â Teimlaiâr Aelod ei bod yn bwysig iddo fynychu pob cyfarfod. Roedd fideos dilynol yn dangos bod y car naill aiân llonydd neu fod yr Aelod yn eistedd yn sedd y teithiwr.
Dywedodd yr Heddlu nad oeddent wedi derbyn cwyn ac na fyddai ymchwilio iâr mater bellach er budd y cyhoedd. Nid rĂ´l yr Ombwdsmon yw penderfynu a fyddai gweithredoedd yr aelod wedi bod yn gyfystyr ag ymddygiad troseddol. Â Fodd bynnag, nid yw penderfyniad yr Heddlu yn golygu bod gweithredoedd yr Aelod yn cael eu hystyried yn dderbyniol.
Canfu’r Ombwdsmon fod gweithredoedd yr Aelod yn awgrymu torri’r Cod. Maeâr cyhoedd yn disgwyl yn briodol i aelodau etholedig ymgysylltuân llawn â busnes y Cyngor ac roedd mynychu cyfarfod wrth yrru cerbyd yn dangos barn wael ac roedd ganddoâr potensial i ddwyn anfri ar y Cyngor.
Roedd yr Ombwdsmon oâr farn bod tystiolaeth o un digwyddiad lleâr oedd yr Aelod yn gyrru ac yn rhyngweithio ââr cyfarfod, ac nad oedd yn ymddangos ei fod yn arwydd o ymddygiad ailadroddus.  Maeâr fideos dilynol yn dangos yr aelod yn y sedd y teithiwr neu mewn cerbyd llonydd yn awgrymu nad oedd yr Aelod wedi ailadrodd yr ymddygiad aâi fod wedi dysgu oâr gĹľyn hon.
Canfuâr Ombwdsmon, er bod gweithredoedd yr Aelod yn awgrymu torriâr Cod, nad oedd wedi ailadrodd yr ymddygiad ers hynny, ac roedd diffyg ymchwiliad troseddol yn golygu na fyddai cymryd camau pellach er budd y cyhoedd
Canfuâr Ombwdsmon nad oedd angen cymryd unrhyw gamau o dan Adran 69(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 mewn perthynas ââr materion yr ymchwiliwyd iddynt.
Bydd y penderfyniad hwn yn cael ei gadw ar gofnod ac yn cael ei ystyried os bydd unrhyw ymddygiad tebyg gan yr Aelod yn y dyfodol.