Derbyniodd yr Ombwdsmon gĹľyn gan Swyddog (âYr Achwynyddâ) o Gyngor Bwrdeistref Siriol Merthyr Tudful (ây Cyngorâ), fod Aelod oâr Cyngor wedi methu â chadw at y Cod Ymddygiad ar gyfer aelodauâr Cyngor.
Honnwyd bod yr Aelod, yn ystod yr ymgyrch etholiadol ddiweddar, wedi tynnu taflen wleidyddol o flwch llythyrau aelod oâr cyhoedd, wedi rhoi ei daflen ei hun yn ei lle, ac wedi mynd ââr eitem a dynnwyd oddi yno. Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd ymddygiad honedig yr Aelod wedi dwyn anfri ar yr Aelod aâr Cyngor.
Cafodd yr Ombwdsmon wybodaeth gan Swyddog Monitroâr Cyngor, gan gynnwys lluniau fideo oâr digwyddiad. Cadarnhaodd y Cyngor, er bod y mater wedi’i adrodd i’r Comisiwn Etholiadol a’r Heddlu, sefydlwyd nad oedd y mater yn drosedd etholiadol neuân drosedd Post Brenhinol ac roedd y ddau gorff wedi gwrthod cymryd unrhyw gamau pellach.
O ganlyniad, nid oedd yr Ombwdsmon yn fodlon bellach fod ymchwilio iâr gĹľyn er budd y cyhoedd, a phenderfynwyd terfynuâr ymchwiliad.