Cafodd yr Ombwdsmon gĹľyn bod Aelod (âyr Aelodâ) o Gyngor Cymuned Llansanffraid (ây Cyngorâ) wedi torriâr Cod Ymddygiad. Honnwyd bod yr Aelod yn gysylltiedig â digwyddiad gyda chontractwr y Cyngor (ây Contractwrâ), ac o ganlyniad cafwyd ymchwiliad gan yr Heddlu. Yn dilyn hynny, plediodd yr Aelod yn euog i gyhuddiad o achosi niwed corfforol drwy yrruân wyllt ac yn bryfoclyd. Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd yr Aelod wedi methu â chydymffurfio ââr ddarpariaeth ganlynol yn y Cod Ymddygiad:
- 6(1)(a) – Rhaid i Aelodau beidio ag ymddwyn mewn modd y gellid yn rhesymol ystyried ei fod yn dwyn anfri ar eu swydd neu eu hawdurdod.
Cafwyd adroddiad tyst gan y Clerc a chafwyd gwybodaeth gan yr Heddlu aâr Llys. Gwrthododd yr Aelod gydweithredu ag ymchwiliad yr Ombwdsmon. Canfuâr ymchwiliad fod natur y trosedd, a oedd yn ymwneud â Chontractwr y Cyngor, yr effaith ar y bechgyn ifanc a gafodd eu hanafu yn y digwyddiad, aâr cyhoeddusrwydd ynghylch y digwyddiad, a gyfeiriodd at y Cyngor, yn awgrymu y gallai gweithredoedd yr Aelod fod wedi dwyn anfri ar ei swydd aâr Cyngor ac yn awgrymu bod paragraff 6(1)(a) oâr Cod Ymddygiad wedi cael ei dorri. Cafodd yr adroddiad ar yr ymchwiliad ei gyfeirio at sylw Llywydd Panel Dyfarnu Cymru (APW) ar gyfer penderfyniad gan dribiwnlys.
Daeth y Tribiwnlys iâr casgliad bod yr Aelod wedi torri paragraff 6(1)(a) oâr Cod Ymddygiad drwy ddwyn anfri ar ei swydd fel Cynghorydd. Yn unol â hynny, penderfynodd y Tribiwnlys y dylaiâr aelod gael ei wahardd am 12 mis rhag bod yn aelod oâr awdurdod neu ddod yn aelod o unrhyw awdurdod perthnasol arall.