Yn 2019, cwynodd Mr N iâr Ombwdsmon am oedi gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (âyr APCâ) yn ei ymateb iâw gĹľyn, a oedd wedi cymryd bron i 3½ blynedd i benderfynu arno, aâr camau a gymerwyd gan yr APC i weithreduâr argymhellion yn adroddiad y Swyddog Monitro ar yr ymchwiliad iâr gĹľyn. Roedd y rhain yn cynnwys gwneud gwaith i arwynebu trac a symud/disodli grid gwartheg, yn ogystal â ffensio ar dir comin (a oedd angen caniatâd Llywodraeth Cymru). Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gĹľyn Mr N, ac yn yr adroddiad dilynol ar 16 Medi 2019 gwnaeth nifer o argymhellion gydaâr bwriad o sicrhau bod y camau gweithreduân cael eu cwblhau âcyn gynted ag y boân rhesymol ymarferolâ, y cytunodd yr APC iâw rhoi ar waith.
Ym mis Medi 2021, cwynodd Mr N iâr Ombwdsmon eto am y diffyg cynnydd. Setlwyd y gĹľyn ar y sail bod yr APC wedi cytuno i gwblhauâr gwaith ar y traciau aâr grid gwartheg erbyn diwedd mis Mawrth 2022, a chwblhauâr ffensio o fewn 3 mis i ganiatâd Llywodraeth Cymru ar gyfer y gwaith. Erbyn diwedd mis Hydref 2022, er bod gwaith wediâi wneud, nid oedd wediâi gwblhau, ac roedd y cais i Lywodraeth Cymru wedi âdod i benâ ac roedd angen ail-gyflwyno.
Gan ei bod yn anfodlon nad oedd yr APC wedi cydymffurfio ag argymhellion adroddiad 2019 na thelerauâr setliad, defnyddiodd yr Ombwdsmon ei phwerau o dan adran 28 i gyhoeddi Adroddiad Arbennig. Er bod yr Ombwdsmon yn deall bod yr APC ar adegau wediâi gael ei hun mewn sefyllfa anodd, caniatawyd iâr sefyllfa fynd yn ddifater am lawer rhy hir ac roedd yn gwbl annerbyniol nad oedd y mater wedi dod i ben. Argymhellodd y dylaiâr APC, o fewn 1 mis:
a) Anfon ymddiheuriad ysgrifenedig i Mr N gan y Prif Weithredwr am y ffordd y maeâr APC wedi ymdrin ââr mater hwn.
b) Talu swm o ÂŁ1000 i Mr N i gydnabod yr amser aâr drafferth y mae wediâi roi iddynt wrth fynd ar drywydd ei gĹľyn.
Argymhellodd yr Ombwdsmon hefyd y dylaiâr APC:
c) Gyflymuâr gwaith sydd wediâi gynnwys yn y tendr (adeiladuâr trac ac ail-leoliâr grid gwartheg) fel mater o frys. Dylid cwblhau gwaith oâr fath cyn gynted â phosibl, ac erbyn diwedd mis Mawrth 2023 fan bellaf.
d) Gwneud popeth o fewn ei allu i gyflymu penderfyniad Llywodraeth Cymru ar y cais am ganiatâd tir comin; dylaiâr ffens gael ei chwblhau o fewn 3 mis i Lywodraeth Cymru roi caniatâd ar gyfer y gwaith.
e) Adrodd yr adroddiad hwn yn ffurfiol i gyfarfod nesaf Pwyllgor Archwilio a Llywodraethuâr APC. Wedi hynny, dylaiâr mater fod yn eitem sefydlog ar agendaâr Pwyllgor hwnnw hyd nes y bydd y Pwyllgor yn fodlon bod y gwaith wediâi gwblhau, a dylaiâr APC gadarnhau i mi ei fod wedi bod, a darparu tystiolaeth ddogfennol/ffotograffaidd briodol o hyn.
f) O fewn 4 mis i gyhoeddiâr adroddiad, cynnal adolygiad o sut yr ymdriniwyd â chwyn Mr N aâi gamau gweithredu dilynol i nodi gwersi y gellir eu dysgu, gydaâr bwriad o sicrhau na fydd gwallau ac oedi oâr fath yn digwydd eto yn y dyfodol. Dylai sicrhau bod digon o oruchwyliaeth i sicrhau y cydymffurfir ag unrhyw argymhellion a wneir yn y dyfodol.
Cytunodd yr APC i weithreduâr argymhellion.