Cwynodd Mr B am y gofal bydwreigiaeth a dderbyniodd ei bartner, Ms C, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (ây Bwrdd Iechydâ). Yn benodol, cwynodd Mr B nad oedd y bwriad i atgyfeirio Ms C at JIG-SO (gwasanaeth a sefydlwyd gan y Bwrdd Iechyd aâr Awdurdod Lleol i ddarparu cymorth bydwreigiaeth) yn briodol.
Casglodd yr Ombwdsmon fod Ms C wedi derbyn triniaeth a gofal bydwreigiaeth priodol. Yn unol ââr canllawiau perthnasol, roedd Ms C wedi derbyn apwyntiadau cyson gyda bydwraig a gwnaed trefniadau i Mr B fod yn bresennol ym mhob apwyntiad, ar adeg pryd oedd trefniadau oâr fath wedi eu cyfyngu oherwydd pandemig Covid-19. Casglodd yr ymchwiliad hefyd fod atgyfeiriad y fydwraig at JIG-SO yn briodol. Fodd bynnag, nid oedd unrhyw drafodaeth wediâi chofnodi â Ms C am JIG-SO aâi wasanaeth ac nid oedd y daflen wybodaeth am JIG-SO yn un ddiweddar. Dylai Ms C fod wedi bod yn rhan o drafodaeth am ei gofal er mwyn gallu gwneud penderfyniad gwybodus ynghylch a oedd eisiau cael ei hatgyfeirio neu beidio. Casglodd yr ymchwiliad nad oedd y fydwraig wedi hwyluso dewis gwybodus gan Ms C, oedd yn groes iâr canllawiau cenedlaethol. Achosodd hyn boen meddwl i Ms C oedd yn anghyfiawnder. Felly penderfynwyd derbyn y rhan yma o gĹľyn Mr B.
Argymhellodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd yn ymddiheuro wrth Ms C a thalu iawndal o ÂŁ250 am y methiant a nodwyd. Argymhellodd hefyd fod y Bwrdd Iechyd yn rhannuâr adroddiad â staff clinigol perthnasol er mwyn dysgu a myfyrioân feirniadol arno, yn adolygu a diweddaruâr daflen wybodaeth JIG-SO a manylion y gwasanaeth, ac yn atgoffa bydwragedd yng ngwasanaeth bydwreigiaeth y Bwrdd Iechyd o bwysigrwydd cynnwys merched beichiog mewn trafodaethau am eu gofal, fel eu bod yn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus.