Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Eraill : Cyngor Sir Powys – PSOW Cymraeg

Report Date

17/11/2021

Subject

Eraill

Case Reference Number

202104986

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod Cyngor Sir Powys wedi rhestru ei rodfa fel priffordd gyhoeddus ar wefan “Find My Street”. Dywedodd ei fod wedi defnyddio manylion priffordd gyhoeddus gyfredol ac wedi eu hychwanegu at ei lôn breifat.

Canfu’r Ombwdsmon fod cofrestr y Cyngor o briffyrdd yn cofnodi lĂ´n Mr A fel priffordd gyhoeddus, gyda’r gwaith cynnal a chadw yn cael ei wneud ar draul y cyhoedd. Ni chynhaliwyd unrhyw broses gyfreithiol ddyladwy ers i aelodau’r Cyngor ei derbyn fel ffordd fabwysiedig yn unol â’r mapiau cyn 1946, gan arwain at ei dynnu oddi ar y gofrestr. Serch hynny, canfu’r Ombwdsmon hefyd fod y disgrifiadau o’r ffyrdd a ddefnyddir ar wefan “Find My Street” mewn perthynas ag eiddo Mr A ac eiddo cymdogion, yn anghywir.

Cafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gyflwyno cywiriad er mwyn i wefan “Find My Street” adlewyrchu’r disgrifiadau o’r ffyrdd sy’n arwain at eiddo Mr A ac eiddo cymdogion yn gywir o fewn 20 diwrnod gwaith.