Cwynodd Mr X am benderfyniad Tai Valleys To Coast (ây Corffâ) i ail-gynnal proses fidio (âyr ail broses fidioâ). Cwynodd hefyd ei fod wedi methu â chynnal trydedd broses ymgeisio oherwydd bod gwybodaeth sylweddol am yr ail broses fidio wediâi hepgor o gorff e-bost. Yn olaf, cwynodd am oedi wrth gyfathrebu.
Canfuâr Ombwdsmon fod y penderfyniad i ail-gynnal y broses fidio yn seiliedig ar gyngor cyfreithiol ac nad oedd digon o dystiolaeth o gamweinyddu yn yr ail broses fidio. Fodd bynnag, roedd yn bryderus nad oedd tystiolaeth ategol o ddysgu wediâi darparu mewn perthynas ââr diffygion cyfathrebu a dderbyniwyd, ac os oedd gwybodaeth sylweddol wediâi chynnwys yng nghorff yr e-bost perthnasol, gallai hyn fod wedi atal y sefyllfa rhag codi. Penderfynodd setloâr gĹľyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Corff i ddarparu tystiolaeth ategol bellach o ddysgu mewn perthynas ââr oedi o ran cyfathrebu, ac i adolygu ei brosesau i sicrhau bod dyddiadau pwysig a gwybodaeth bwysig yn cael eu cynnwys yng nghorff gohebiaeth e-bost.