Ar Ă´l iâw dad, Mr F, ddatblygu arwyddion ei fod wedi dioddef strĂ´c, a arweiniodd at alwad 999, cwynodd Mr D iddi gymryd dros 3 awr iâr ymddiriedolaeth anfon ambiwlans ato. O ystyried bod angen triniaeth ar frys ar bobl syân dioddef strĂ´c, roedd Mr D yn benodol bryderus y dylai achos ei dad fod wedi cael statws coch, yn hytrach na’r statws Ambr 1 a neilltuwyd1 iddo. Roedd Mr D hefyd o’r farn, o ganlyniad i’r oedi cyn cyrraedd yr ysbyty, y collwyd cyfle i weinyddu thrombolysis (meddyginiaeth sy’n gweithredu i doddi ceulad gwaed) ac felly cafodd siawns ei dad o oroesi ei gyfaddawdu.
Cafodd ymchwiliad yr Ombwdsmon ei lywio gan gyngor gan Uwch Reolwr Hyfforddi Parafeddygon / Gweithredol ar gyfer Canolfannau Rheoli Brys (âyr Ymgynghoryddâ) hynod brofiadol. Ar Ă´l adolygu’r holl dystiolaeth berthnasol oedd yn ymwneud â’r digwyddiad, roedd yr Ymgynghorydd o’r farn bod statws Ambr 1 yr alwad yn gywir ac na fyddai wedi bod yn briodol cynyddu statws yr alwad i statws Coch. Yn ogystal, canfuâr Ymgynghorydd, ar Ă´l adolygu logiau argaeledd cerbydau, na gollwyd unrhyw gyfleoedd i anfon ambiwlans yn gynt nag y gwnaethpwyd.
Ar Ă´l ystyried sylwadauâr Ymgynghorydd, daeth yr Ombwdsman iâr casgliad nad oes modd pennu cyrhaeddiad Mr F yn yr ysbyty y tu allan iâr terfyn amser optimaidd iddo dderbyn thrombolysis i unrhyw fethiant gwasanaeth osgoadwy ar ran yr Ymddiriedolaeth ac, yn unol â hynny, ni fyddai wedi bod yn briodol adolygu effaith unrhyw oedi wrth i Mr F gyrraedd yr ysbyty. O ganlyniad, nid oedd yr Ombwdsmon wedi cynnal y gĹľyn.