Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Gwasanaethau Cymdeithasol Plant : Cyngor Caerdydd – PSOW Cymraeg

Report Date

14/12/2021

Subject

Gwasanaethau Cymdeithasol Plant

Case Reference Number

202105113

Outcome

Datrys yn gynnar

Ym mis Mawrth 2021, roedd Ms X wedi cwyno i’r Cyngor am yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Plant, ond er pwyso am ymateb droeon, yr oedd yn dal i aros am ymateb.

Roedd yr Ombwdsmon yn poeni am yr amser yr oedd yn ei gymryd i’r Cyngor gwblhau ymchwiliad i’r hyn a oedd yn ymddangos i fod yn gŵyn gofal / amddiffyn plant difrifol. Roedd felly wedi cysylltu â’r Cyngor a gytunodd i wneud y canlynol i setlo cwyn Ms X, yn lle cynnal ymchwiliad:
1. Cwblhau a chyhoeddi ei adroddiad Cam 2 erbyn 31 Rhagfyr 2021 fan bellaf.
2. Gwneud taliad amser a thrafferth o £250.00 erbyn 30 Ionawr 2022 fan bellaf.
3. Cynnig ymddiheuro wrth Ms X am ddelio’n wael â mater mor ddifrifol.