Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Gwasanaethau i oedolion Agored i Niwed (ee gydag anawsterau dysgu. neu â materion iechyd meddwl) : Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – PSOW Cymraeg

Report Date

01/07/2022

Subject

Gwasanaethau i oedolion Agored i Niwed (ee gydag anawsterau dysgu. neu â materion iechyd meddwl)

Case Reference Number

202108690

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X, drwy ei heiriolwr, nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi’r gofal yr aseswyd ei bod ei angen arni ar waith yn briodol oherwydd anghydfod rhwng y Bwrdd Iechyd a’r Cyngor ynghylch ariannu’r ddarpariaeth. Cwynodd hefyd fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb i’w chwyn iddo.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus o nodi’r oedi annerbyniol cyn darparu’r lefel a aseswyd o ofal i Ms X, a’i methiant i ymateb i’w chwyn am hyn.

Yn dilyn y gŵyn, roedd y Bwrdd Iechyd wedi gwneud y canlynol:

• Darparu ymateb ffurfiol i gŵyn Ms X.
• Cadarnhau lefel y ddarpariaeth gofal y cytunwyd arni i Ms X a chymryd camau i roi hyn ar waith.
• Cytuno i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Ombwdsmon am y cynnydd o ran darparu’r gofal fel y cytunwyd erbyn 31 Gorffennaf 2022.