Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Gwasanaethau i oedolion Agored i Niwed (ee gydag anawsterau dysgu. neu â materion iechyd meddwl) : Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr – PSOW Cymraeg

Report Date

14/08/2023

Subject

Gwasanaethau i oedolion Agored i Niwed (ee gydag anawsterau dysgu. neu â materion iechyd meddwl)

Case Reference Number

202303100

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr K nad oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi rhoi’r cymorth priodol iddo i ddiwallu ei anghenion.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod Mr K wedi cyflwyno cwyn i’r Cyngor, mai dim ond ymateb rhannol a gafodd i’w bryderon ym mis Tachwedd 2022. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mr K. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i roi ymddiheuriad i Mr K ac eglurhad am yr oedi cyn ymateb i’w bryderon, darparu ymateb i’r gŵyn sy’n cynnwys manylion ar sut i uwchgyfeirio ei bryderon os yw’n dal yn anfodlon o fewn 30 diwrnod gwaith.