Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Gweithdrefnau apwyntiad (gan gynnwys cleifion allanol) : Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro – PSOW Cymraeg

Report Date

19/01/2022

Subject

Gweithdrefnau apwyntiad (gan gynnwys cleifion allanol)

Case Reference Number

202104566

Outcome

Setliadau gwirfoddol

Cwynodd Mr P na wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro reoli atgyfeiriad niwroddatblygiadol yn briodol mewn perthynas â’i ferch, B. Roedd hefyd yn bryderus fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â rhoi digon o wybodaeth iddo ynglŷn â’r broses atgyfeirio a lle B ar y rhestr aros.

Wrth ymateb i ymchwiliad yr Ombwdsmon, dywedodd y Bwrdd Iechyd ei fod wedi cynnig apwyntiad am asesiad i B ac wedi dweud ei fod yn barod i roi mwy o fanylion i Mr P er mwyn datrys ei gŵyn.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu llythyr at Mr P i fynd i’r afael â nifer o gwestiynau heb eu hateb ynglÅ·n â gofal B fel y nodwyd gan yr Ombwdsmon ac i ymddiheuro am y cyfathrebu anghyson. Cytunodd i gyflwyno llythyr i’r Ombwdsmon i’w gymeradwyo o fewn 4 wythnos ac i gyhoeddi’r llythyr i Mr P o fewn 1 wythnos o dderbyn cymeradwyaeth. Yn seiliedig ar y camau uchod, ystyriodd yr Ombwdsmon fod y gŵyn wedi’i setlo.