Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Gweithdrefnau apwyntiad (gan gynnwys cleifion allanol) : Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – PSOW Cymraeg

Report Date

24/08/2023

Subject

Gweithdrefnau apwyntiad (gan gynnwys cleifion allanol)

Case Reference Number

202303012

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs S, er iddi gwyno am y driniaeth a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ym mis Tachwedd 2022, nad oedd wedi cael ymateb.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â gweithredu yn unol â’i drefn gwyno statudol a’i fod wedi methu â diweddaru Mrs S ynglÅ·n â’i ymchwiliad. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mrs S. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mrs S am yr oedi, cyhoeddi ymateb i’r gŵyn, a rhoi diweddariad iddi ynghylch triniaeth o fewn 30 diwrnod gwaith.