Cwynodd Mr C am y gofal a gafodd ei ddiweddar dad, Mr A, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (ây Bwrdd Iechydâ) pan gafodd Mr A ei ryddhau o Ysbyty’r Tywysog Siarl (âyr Ysbytyâ) ar 8 Rhagfyr 2021. Roedd yn pryderu a ddeliwyd yn briodol â rhyddhau Mr A o’r Ysbyty ac a wnaed hynny’n unol â chanllawiau perthnasol, a hefyd ynghylch y ffordd y deliwyd ââi gĹľyn.
Canfu’r ymchwiliad yr ymdriniwyd yn briodol â rhyddhau Mr A oâr Ysbyty, felly ni chadarnhawyd yr elfen hon o’r gĹľyn. Fodd bynnag, roedd elfen o’r broses delio â chwynion (o ran cais yn ymwneud â lluniau teledu cylch cyfyng) yn is naâr safon briodol. Felly, cadarnhaodd yr Ombwdsmon yr elfen hon o’r gĹľyn yn rhannol ac argymhellodd y dylai’r Bwrdd Iechyd roi ymddiheuriad ysgrifenedig i Mr C am y methiant a nodwyd, y dylai gynnig taliad o ÂŁ375 iddo i gydnabod yr anghywirdeb o ran y lluniau teledu cylch cyfyng, ac y dylai ddwyn yr adroddiad i sylwâr staff trin cwynion perthnasol a’u hatgoffa o bwysigrwydd cywirdeb a bod yn dryloyw.