Derbyniodd yr Ombwdsmon 2 gĹľyn gan Gadeirydd Cyngor Cymuned y Mwmbwls ar y pryd (ây Cyngorâ) fod Cyn Gynghorydd wedi torri Cod Ymddygiad y Cyngor. Honnwyd bod y Cyn Gynghorydd wedi cyflwyno cyfres o gwynion blinderus iâm swyddfa a oedd wediâu targedu yn erbyn grĹľp bach o aelodauâr Cyngor. Honnwyd ymhellach bod y Cyn Gynghorydd wedi recordio sesiwn gyfrinachol o gyfarfod o’r Cyngor yn gudd ac wedi cynnig chwarae’r recordiad i aelod o’r cyhoedd.
Canfuâr Ombwdsmon fod y Cyn Gynghorydd wedi gwneud 9 cwyn am aelodauâr Cyngor iâw swyddfa mewn 7 mis. Nid oedd yr Ombwdsmon oâr farn bod unrhyw un oâr cwynion yn deilwng, bod rhai yn wacsaw tra bod eraill yn faleisus a/neuân flinderus, a allai fod yn gyfystyr â thorri paragraff 6(1)(d) o God Ymddygiad y Cyngor.
Canfuâr Ombwdsmon fod y Cyn Gynghorydd wedi recordio sesiwn gyfrinachol o gyfarfod oâr Cyngor ond daeth iâr casgliad nad oedd unrhyw dystiolaeth wediâi darparu bod y Cyn Gynghorydd wedi rhannuâr recordiad ag aelod oâr cyhoedd. Fodd bynnag, roedd y Cyn Gynghorydd wedi anfon neges at aelod oâr cyhoedd ac wedi cynnig chwaraeâr recordiad iddo, a allai fod wedi dwyn anfri ar ei swydd aâr Cyngor, gan awgrymu torri paragraff 6(1)(a) o God Ymddygiad y Cyngor.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad y gallai ymddygiad y Cyn Gynghorydd fod yn gyfystyr â thorri paragraffau 6(1)(a) a 6(1)(d) o God Ymddygiad y Cyngor a chyfeiriodd ei hadroddiad at Swyddog Monitro Cyngor Abertawe i’w ystyried gan ei Bwyllgor Safonau.
Daeth y Pwyllgor Safonau i’r casgliad bod y Cyn Gynghorydd wedi torri paragraffau 6(1)(a) a 6(1)(d) o’r Cod Ymddygiad. Penderfynodd gerydduâr Cyn Gynghorydd a nododd, petaiâr Cyn Gynghorydd wedi parhauân aelod oâr Cyngor, y byddai wedi atal y Cyn Gynghorydd am 6 mis.