Cafodd yr Ombwdsmon gĹľyn bod Aelod (âyr Aelodâ) o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (âyr Awdurdodâ) wedi torri amodau Cod Ymddygiad yr Awdurdod (ây Codâ). Honnwyd bod yr Aelod, yn ystod 2 gyfarfod penodol oâr Awdurdod, wedi methu â thrin aelod o staff, un o swyddogion yr Awdurdod, â pharch ac wedi defnyddio ymddygiad y gellid ei ystyried fel bwlio tuag ati.
Ystyriodd ymchwiliad yr Ombwdsmon a allai ymddygiad yr Aelod fod wedi torri amodau paragraffau 4(b), 4(c), a 6(1)(a) oâr Cod. Cafwyd gwybodaeth gan yr Awdurdod, gan gynnwys gohebiaeth a negeseuon ebost perthnasol. Cafwyd recordiad fideo a thrawsgrifiad o gyfarfod perthnasol. Cafwyd gwybodaeth gan dystion hefyd.
Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon, o ran cyfarfod cyntaf yr Awdurdod, fod yr Aelod yn teimloân rhwystredig gydaâr ffordd y gweinyddwyd y cyfarfod. Cymerodd yr Aelod ran mewn trafodaeth gadarn a mynegodd ei bryderon ynghylch gweinyddiaeth y cyfarfod. Canfuâr Ombwdsmon fod beirniadaeth oâr fath o syniadau a safbwyntiau yn cael ei hystyried yn rhan o drafodaeth ddemocrataidd. Roedd sylwadauâr Aelod yn wleidyddol eu natur ac fellyân cael mwy o warchodaeth o dan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Roedd yr Ombwdsmon yn cydnabod y gallaiâr aelod o staff fod wedi cael ei siomi gan y feirniadaeth oâr ffordd yr ymdriniwyd ââr cyfarfod, ond nid oedd yr Ombwdsmon oâr farn bod tystiolaeth bod sylwadauâr Aelod yn bersonol nac yn dramgwyddus iawn. Canfuâr Ombwdsmon ar sail y dystiolaeth ac, yn benodol, recordiad fideoâr cyfarfod cyntaf, nad oedd yr Aelod yn arbennig o nerthol nac ymosodol, er ei bod yn amlwg ei fod yn teimloân rhwystredig.  Nid oedd yr Ombwdsmon oâr farn bod sylwadauâr Aelod yn ddigon tramgwyddus, bygythiol neu sarhaus i fod yn gyfystyr â bwlio neu ymddygiad amharchus o fewn ystyr y Cod. O ganlyniad, ni chafodd yr Ombwdsmon ei argyhoeddi bod tystiolaeth i awgrymu bod amodau paragraffau 4(b) neu 4(c) oâr Cod wedi cael eu torri.
Mewn perthynas ââr ail gyfarfod, canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod anghytundeb rhwng yr Aelod aâr aelod o staff ynghylch trefniadau gweithio a threfniadau llywodraethuâr Awdurdod. Canfuâr Ombwdsmon, ar sail y dystiolaeth, fod sylwadauâr Aelod yn ystod yr ail gyfarfod yn sylwadau gwleidyddol am bolisĂŻau a gweinyddiaeth yr Awdurdod. Canfuâr Ombwdsmon fod sylwadauâr Aelod yn dod o fewn ffiniau rhyddid mynegiant ac nad oeddent yn ddigon tramgwyddus, bygythiol neu sarhaus i fod yn gyfystyr â bwlio neu ymddygiad amharchus o fewn ystyr y Cod. O ganlyniad, ni chafodd yr Ombwdsmon ei argyhoeddi bod tystiolaeth i awgrymu bod amodau paragraffau 4(b) neu 4(c) oâr Cod wedi cael eu torri.
Canfuâr Ombwdsmon, yng ngoleuni ei chanfyddiadau uchod, nad oedd tystiolaeth ychwaith i awgrymu bod yr Aelod wedi dwyn anfri ar ei swydd fel Aelod nac ar ei Awdurdod.
Canfu’r Ombwdsmon, o dan adran 69(4)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, nad oedd unrhyw dystiolaeth o fethu cydymffurfio ââr Cod.