Derbyniodd yr Ombwdsmon gĹľyn wediâi hunangyfeirio gan Aelod (“y Cyn Aelod”) o Gyngor Sir Ceredigion (“y Cyngor”), ei fod wedi torri Cod Ymddygiad y Cyngor ar gyfer aelodau.
Dywedodd yr Aelod, yn ystod trafodaeth mewn cyfarfod cyhoeddus y Cyngor am ddarpariaeth Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (âWASTâ) yng Ngheredigion, ei fod wedi gwneud sylwadau amhriodol am âfewnfudwyrâ iâr sir a âmewnfudwyrâ yn cael eu caniatĂĄu i mewn i Gymru gan Lywodraeth Cymru aâr effaith posib ar y gwasanaethau hynny. Ystyriodd ymchwiliad yr Ombwdsmon a allai ymddygiad y Cyn Aelod fod wedi torri paragraffau 4(a), 4(b) a 6(1)(a) o God Ymddygiad y Cyngor.
Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor gan gynnwys trawsgrifiad o’r hyn a ddywedodd y Cyn Aelod yn y cyfarfod, cofnodion cyfarfodydd y Cyngor, a sylwadau gan y Cyn Aelod. Canfuâr Ombwdsmon fod y Cyn Aelod wedi rhoiâr gorau iâw blaid wleidyddol i eistedd fel aelod annibynnol yn dilyn y digwyddiad. Yn ystod yr ymchwiliad, safodd y Cyn Aelod yn yr etholiad ar 5 Mai 2022 ac ni chafodd ei ethol gan yr etholwyr lleol.
Mewn sylwadau i’r Cyngor a’r Ombwdsmon, dywedodd y Cyn Aelod y buâr sylwadau yn amhriodol aâu bod wedi’u cymryd mewn ffordd nas bwriadwyd. Canfuâr Ombwdsmon nad oedd sylwadauâr Cyn Aelod yn sylwadau di-alw-amdanynt, yn sylwadau personol, neuân iaith casineb ac na fyddent wedi cael eu dehongli i gynrychioli safbwyntiauâr Cyngor. Fel y cyfryw, ni fyddent yn gyfystyr â thorri paragraffau 4(a) neu 6(1)(a) y Cod Ymddygiad. Fodd bynnag, penderfynodd yr Ombwdsmon y gallent gael eu hystyried yn ymrannol ac yn amharchus, ac yn awgrymu toriad o baragraff 4(b) drwy fethu â dangos parch ac ystyriaeth at eraill.
Roedd yr Ombwdsmon oâr farn, gan mai yn y pen draw, etholwyr lleol oedd yn penderfynu ar rĂ´l y Cyn Aelod a gan nad oedd bellach yn aelod oâr Cyngor, y byddai unrhyw sancsiwn y gellid ei roi pe bai Pwyllgor Safonauâr Cyngor yn canfod achos o dorriâr Cod Ymddygiad yn gyfyngedig. Felly nid oedd er budd y cyhoedd i gymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas ââr mater.
Canfuâr Ombwdsmon nad oedd angen cymryd unrhyw gamau o dan Adran 69(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 mewn perthynas ââr materion yr ymchwiliwyd iddynt.