Derbyniodd yr Ombwdsmon gĹľyn gan Aelod (âyr Achwynyddâ) o Gyngor Tref Tywyn (ây Cyngor Trefâ), bod Cyn Aelod oâr Cyngor Tref wedi methu â chadw at y Cod Ymddygiad i Aelodau.
Honnwyd bod y Cyn Aelod wedi gwneud honiadau ffug am y Cyn Glerc ac Aelodau eraill o’r Cyngor Tref, ac wedi tanseilio a bychanuâr Cyn Glerc yng nghyfarfodydd y Cyngor Tref. Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd ymddygiad honedig y Cyn-Aelod yn awgrymu methiant i ddangos parch ac ystyriaeth at eraill, ac ymddygiad bwlio ac aflonyddu, a oedd yn dwyn anfri ar y Cyn Aelod aâr Cyngor Tref.
Cafodd yr Ombwdsmon wybodaeth gan Swyddog Monitro Cyngor Gwynedd (ây Cyngorâ), y Cyngor Tref, tystion aâr Cyn Aelod. Yn ystod yr ymchwiliad gwnaed sawl ymgais i gael datganiad ffurfiol gan yr Achwynydd, ond ni fu llwyddiant. Roedd ymchwiliad yr Ombwdsmon oâr farn, er bod y Cyn Aelod wedi ymddiswyddo oâr Cyngor Tref yn ystod yr ymchwiliad, roedd y Cyn Aelod wedi parhauân Aelod oâr Cyngor ac wedi sefyll iâw ailethol iâr Cyngor. Fodd bynnag, yn y pen draw, ni chafodd y Cyn Aelod ei ethol gan yr etholwyr lleol ac felly nid oedd bellach yn Aelod ar lefel Tref na Sir.
O ganlyniad, nid oedd yr Ombwdsmon bellach yn fodlon bod ymchwilio iâr gĹľyn er budd y cyhoedd, a phenderfynwyd terfynuâr ymchwiliad.