Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Iechyd : Brwdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg – PSOW Cymraeg

Report Date

16/09/2022

Subject

Iechyd

Case Reference Number

202202874

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms B fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb i’w phryderon am ei Phractis Meddyg Teulu.
Canfu’r Ombwdsmon bod y Bwrdd Iechyd wedi cydnabod pryderon Ms B a bod y Practis Meddyg Teulu wedi ymateb iddi’n uniongyrchol. Fodd bynnag, ni esboniodd y Bwrdd Iechyd i Ms B pam nad oedd wedi ymchwilio i’w phryderon am y Practis Meddyg Teulu ei hun.
Felly, cytunodd y Bwrdd Iechyd i gwblhau’r camau canlynol erbyn 17 Hydref 2022:
a) Ymddiheuro am fethu ag ymateb i Ms B.
b) Darparu esboniad i Ms B ynghylch pam na wnaeth/pam na fyddai yn ymchwilio i’w phryderon am ei Phractis Meddyg Teulu.