Cwynodd Miss P am amgylchiadau ei hatgyfeirio am driniaeth ar gyfer Dadsensiteiddio ac Ailbrosesu Symudiadau’r Llygaid (âEMDRâ – seicotherapi cynhwysfawr sy’n helpu claf i brosesu ac adfer ar Ă´l profiadau’r gorffennol sy’n effeithio ar eu hiechyd meddwl a’u lles) ym mis Mai a mis Medi 2019, a holodd pâun a oeddent yn gwrthod triniaeth. Cwynodd hefyd am y modd yr ymdriniwyd ââi chĹľyn, yn benodol, pâun a oedd gwrthdaro buddiannau gydaâr swyddog ymchwilio. Cwynodd Miss P hefyd am brydlondeb ymateb y Bwrdd Iechyd iâr gĹľyn aâr ffaith nad oedd wedi cyfathrebu â hi ynghylch ei broses gwneud iawn.
Canfuâr Ombwdsmon nad oedd gan y Bwrdd Iechyd unrhyw gofnod o atgyfeiriad cyntaf Miss P ar gyfer EMDR, unrhyw drafodaethau am yr atgyfeiriad, nac am roi gwybod i Miss P am y canlyniad. Roedd hyn yn achos o gamweinyddu a gwnaeth yr Ombwdsmon gadarnhauâr rhan hon oâr gĹľyn.
Canfuâr Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i gĹľyn Miss P o fewn cyfnod rhesymol, ac nad oedd gwrthdaro buddiannau, cymerodd lawer gormod o amser i ystyried a oedd angen gwneud iawn â Miss P ac ni chafodd ei diweddaru yn unol ââr canllawiau ar gyfer delio â chwynion. Roedd hyn hefyd yn achos o gamweinyddu a gwnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r rhan hon oâr gĹľyn.
Argymhellodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd yn ymddiheuro i Miss P, yn talu swm bach o iawndal ariannol iddi, ac yn cymryd camau pellach i sicrhau nad ywâr un methiannauân digwydd eto. Cytunodd y Bwrdd Iechyd â’r argymhellion hyn.