Cwynodd Miss J am y gofal aâr driniaeth a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (ây Bwrdd Iechydâ). Ar Ă´l iâw pherthynas therapiwtig chwalu gydaâr Prif Seicolegydd ym mis Gorffennaf 2018, roedd hiân bryderus bod y Bwrdd Iechyd wedi methu â delio ââi chais iâr Prif Seicolegydd beidio â chymryd rhan bellach yn y gwaith o reoli ei gofal. Cwynodd hefyd nad oedd y modd yr oedd y Bwrdd Iechyd wedi rheoli ei thriniaeth iechyd meddwl wedi rhoi ystyriaeth briodol iâw hanghenion aâi chefndir unigol.
Canfuâr ymchwiliad y bu gormod o oedi wrth ystyried cais Miss J am fynediad at therapi unigol heb oruchwyliaeth y Prif Seicolegydd, a bod hyn yn fethiant gwasanaeth. Er na fyddai hyn wedi caniatĂĄu i Miss J gael triniaeth briodol yn gynt, roedd y diffyg eglurder dros nifer o fisoedd wedi peri gofid ac ansicrwydd i Miss J, a oedd yn gyfystyr ag anghyfiawnder. Yn unol â hyn, cafodd y gĹľyn hon ei chadarnhau. Canfuâr ymchwiliad fod y Bwrdd Iechyd wedi cynnig triniaeth briodol, gan roi ystyriaeth briodol i anghenion a chefndir unigol Miss J. Felly, nid oedd cadarnhad dros yr elfen hon o’r gĹľyn.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd ag argymhellion yr Ombwdsmon y dylai ymddiheuro i Miss J a thalu ÂŁ125 iddi am y trallod aâr ansicrwydd a wynebodd. Cytunodd hefyd i fabwysiadu polisi ar gyfer pob TĂŽm Iechyd Meddwl Cymunedol yn nodi sut y dylid rheoli gofal pan fydd diffyg ymddiriedaeth rhwng claf ac uwch reolwr clinigol.