Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Iechyd : Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan – PSOW Cymraeg

Report Date

21/04/2023

Subject

Iechyd

Case Reference Number

202208103

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs D, er i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan roi diweddariad ym mis Awst 2022, fod ei ymateb wedi’i gwblhau ac yn disgwyl i gael ei gadarnhau, cafodd wybod ymhellach yn Ionawr 2023 bod angen ymchwiliadau pellach. Cwynodd Mrs D ymhellach nad oedd hi wedi derbyn ymateb i’r gŵyn, a’i bod wedi bod yn aros ers mis Gorffennaf 2022.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod cryn oedi wedi bod rhwng y cyfnod yr oedd y Bwrdd Iechyd wedi cwblhau ei ymchwiliad a rhoi ei ymateb ysgrifenedig ffurfiol, ac mae’n dal heb wneud hynny. Mae hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac anghyfleustra diangen i Mrs D.

Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn hon heb ymchwiliad a chytunodd y Bwrdd Iechyd â chais yr Ombwdsmon i gyflwyno ei ymateb ysgrifenedig ffurfiol o fewn 4 wythnos, a rhoi taliad o £250 am ei hamser a’i thrafferth.