Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Iechyd : Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – PSOW Cymraeg

Report Date

21/09/2023

Subject

Iechyd

Case Reference Number

202201857

Outcome

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd MrsP ar ran ei diweddar Ĺľr, Mr P, ynghylch Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”) ac am Bractis Meddygon Teulu (“y Practis”) yn yr un ardal bwrdd iechyd. Cwynodd Mrs P am y ffordd yr oedd y Bwrdd Iechyd wedi delio â’i chwyn am y gwasanaeth a ddarparwyd gan y Practis. Hefyd, cwynodd Mrs P am y driniaeth a’r gofal a gafodd Mr P gan y Practis o fis Chwefror 2021 ymlaen. Dywedodd fod y Practis wedi methu darparu ymgynghoriad â meddyg pan ddangosodd ei gĹľr symptomau niwrolegol ar 17 Chwefror. Dywedodd Mrs P fod hyn wedi achosi oedi o 7 wythnos cyn i’w gĹľr gael ei atgyfeirio ar gyfer adolygiad gan arbenigwr a chael diagnosis o ganser terfynol. Canfu’r Ombwdsmon bod y Bwrdd Iechyd wedi delio â chwyn Mrs P yn briodol ac ni wnaeth gadarnhau y rhan hon o’r gĹľyn. Yn ogystal, canfu’r Ombwdsmon y dylai Mr P fod wedi cael archwiliad corfforol brys pan oedd ei symptomau wedi ymddangos fel pe baent wedi newid. Fodd bynnag, nid oedd y Practis wedi gwneud hyn ac mae’n debygol bod hyn wedi arwain at oedi cyn canfod bod gan Mr P diwmor ar yr ymennydd. Er gwaethaf yr oedi, ni fyddai prognosis Mr P wedi newid, gan fod y tiwmor eisoes yn fawr ac wedi ymledu’n helaeth. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y rhan hon o’r gĹľyn. Argymhellodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd yn ymddiheuro i Mrs P ac yn cynnal adolygiad o’i bolisĂŻau i sicrhau na fyddai achosion o’r fath yn codi eto.