Roedd Mr X yn 78 oed, yn dioddef o ddiabetes math 2 (ar inswlin), pwysedd gwaed idiopathig yr ysgyfaint, methiant y galon, canserau blaenorol yn yr ysgyfaint aâr colon, ffibriliad atrĂŻaidd, ac osteoarthritis. Cwynodd Mrs X am y driniaeth a gafodd ei diweddar Ĺľr, Mr X, gan ei feddyg teulu ar 17 Chwefror 2021 a gan yr OOHGP ar 21 Chwefror. Ar 9 Chwefror 2021, cafodd Mr X y brechiad COVID-19 (ây brechiadâ). Dywedodd Mrs X fod brechiad Mr X wedi ei wneud yn sâl a bod y ddau GPS wedi anwybyddu ei phryder am gyflwr Mr X oherwydd y brechiad.
Canfuâr Ombwdsmon na chafodd pryderon am y brechiad eu codi yn yr ymgynghoriadau. Canfu hefyd nad oedd unrhyw arwydd bod unrhyw symptom roedd Mr X yn eu cyflwyno yn gysylltiedig ââr brechiad a hyd yn oed petai amheuaeth o gysylltiad, ni fyddai wedi dylanwadu ar ei reolaeth. Canfuâr Ombwdsmon fod yr ymgynghoriadau aâr triniaethau o safon resymol. Ni chafodd y gĹľyn ei chadarnhau.