Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Iechyd : Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – PSOW Cymraeg

Report Date

12/09/2022

Subject

Iechyd

Case Reference Number

202202962

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X nad oedd hi wedi derbyn ymateb gan y Bwrdd Iechyd yn dilyn ei chŵyn a wnaeth ym mis Mai 2022 am y methiant i ddarparu cefnogaeth i’w merch, sydd ag anabledd difrifol.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â chyhoeddi ymateb i’w chŵyn. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gwblhau’r canlynol wrth setlo cwyn Mrs X erbyn 10 Hydref 2022, fel dewis amgen i gynnal ymchwiliad:
a) Ysgrifennu at Mrs X i ddarparu esboniad ac ymddiheuriad na aethpwyd i’r afael â’i phryderon yn unol â’r weithdrefn y cytunwyd arni.
b) Darparu diweddariad i Mrs X o ran manylion a threfniadau cyswllt sydd ar waith ar hyn o bryd.
c) Cadarnhau’r amserlen lle gall Mrs X ddisgwyl cael ei gwahodd i fynychu cyfarfodydd perthnasol a phryd y bydd diweddariadau’n cael eu cyhoeddi yn dilyn cyfarfodydd o’r fath.
d) Ysgrifennu at Mrs X i rannu canfyddiadau’r Bwrdd Iechyd mewn perthynas â’i phryderon.