Cwynodd Mrs A fod y Practis Meddyg Teulu (ây Practisâ) wedi methu â darparu gofal boddhaol iâw mam, Mrs B, a bod hyn wedi cyfrannu at ei dirywiad cyflym terfynol ym mis Ebrill 2020. Yn ogystal, dywedodd Mrs A nad oedd y modd yr ymdriniodd y Practis ââi chĹľyn yn ddigonol nac yn gadarn. Cwynodd Mrs A hefyd am y gofal nyrsio cymunedol a ddarparwyd, y Bwrdd Iechyd ac am ymgynghoriad dros y ffĂ´n gyda Meddyg Teulu y Tu Allan i Oriau ar 15 Ebrill. Yn olaf, cwynodd Mrs A am Oncolegydd Ymddiriedolaeth GIG Felindre (âYmddiriedolaethâ) aâu dull cyfathrebu ââr teulu yn ogystal ââr ffordd yr oedd yr Ymddiriedolaeth yn delio â chwynion.
Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon, yn gyffredinol, fod yr ymgynghoriadau gan y meddygon teulu yn briodol ac na ellid bod wedi rhagweld dirywiad cyflym na marwolaeth Mrs B. Fodd bynnag, o ystyried dirywiad sydyn Mrs B, byddai ymgynghoriad wyneb yn wyneb wedi bod yn ddefnyddiol, yn enwedig gan ei fod wedi achosi oedi iâr teulu yn ddiweddarach wrth geisio cael tystysgrif marwolaeth. Er na wnaeth y diffyg hwn gyfrannu at ddirywiad sydyn Mrs B, na newid y canlyniad trist, ychwanegodd hyn yn ddiangen at drallod y teulu ar adeg anodd. I raddau cyfyngedig, cafodd y gĹľyn yn erbyn y Practis Meddyg Teulu ei chadarnhau.
Canfuâr Ombwdsmon ddiffygion hefyd yn y gwaith cadw cofnodion gan y Nyrsys Ardal a fethodd â darparu gwybodaeth trosglwyddo ddigonol ar gyfer parhad gofal. Cafodd cofnodion eu hychwanegu wedyn hefyd ar Ă´l i Mrs A gwyno. Er iâr ymchwiliad ddod iâr casgliad nad oedd ymweliad cartref gan y Meddyg Teulu y Tu Allan i Oriau yn angenrheidiol yn dilyn yr ymgynghoriad dros y ffĂ´n, o ystyried bod pob arwydd bod Mrs B yn debygol o fod yn agos at farw, dylid bod wedi trafod hyn gyda Mrs A er mwyn ei pharatoiân well. Canfuâr Ombwdsmon fod y methiannau hyn wrth gyfathrebu wedi achosi anghyfiawnder i Mrs A aâr teulu gan ei fod wedi ychwanegu at eu trallod ar adeg anodd iawn, a chafodd yr agwedd hon ar y gĹľyn yn erbyn y Bwrdd Iechyd ei chadarnhau.
Sylwer: Mae crynodebauân cael eu paratoi o bob adroddiad a ddarperir gan yr Ombwdsmon. Fe all y crynodeb hwn gael ei ddangos ar wefan yr Ombwdsmon ac fe all gael ei gynnwys mewn cyhoeddiadau gan yr Ombwdsmon a/neu mewn cyfryngau eraill. Os hoffech chi drafod y defnydd oâr crynodeb hwn, cysylltwch â swyddfaâr Ombwdsmon.
Canfuâr Ombwdsmon ddiffygion gweinyddol ynghylch dogfennau a chyfathrebu gan yr Oncolegydd a fethodd â rhoi gwybod i feddyg teulu Mrs B am newid sylweddol yn ei thriniaeth a chopĂŻo gohebiaeth gydaâr meddyg teulu i Mrs B. Roedd methiant hefyd i gyfleu gwybodaeth arwyddocaol am ddirywiad Mrs B i dimau clinigol yn dilyn cyswllt Mrs A ââi Llinell Gymorth. Roedd yr Ombwdsmon yn feirniadol hefyd oâr ffordd roedd yr Ymddiriedolaeth wedi ymdrin ââr gĹľyn. Nid oedd yr ymchwiliad yn gadarn ac nid oedd wedi canfod sawl diffyg a nodwyd gan yr Ombwdsmon. Roedd gwallau ffeithiol hefyd yn ei hymateb iâr cwynion. Roedd y diffygion hyn wedi achosi mwy o drallod ac anghyfiawnder iâr teulu, a chafodd yr agweddau hyn ar y gĹľyn yn erbyn yr Ymddiriedolaeth eu cadarnhau.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r cyrff cyhoeddus ymddiheuro i Mrs A am y diffygion a nodwyd. Ar ben hynny, gwnaed argymhellion i sicrhau bod y Bwrdd Iechyd yn cadw cofnodion yn well. Gofynnwyd iâr Ymddiriedolaeth hefyd adolygu ei phrosesau ynghylch gwasanaeth y Llinell Gymorth i wellaâr ffordd y mae gwybodaeth glinigol arwyddocaol yn cael ei chyfleu.