Cwynodd Ms A ynglšn â safon y driniaeth a ddarparwyd iddi gan DĂŽm Iechyd Meddwl Bwrdd Iechyd Bae Abertawe (ây Bwrdd Iechydâ). Yn benodol, dywedodd Ms A bod y Bwrdd Iechyd wedi methu:
⢠Darparu apwyntiadau cartref rheolaidd ar gyfer pigiadau depo (ar gyfer rhoi cyffuriau gwrthseicotig syân cael eu rhyddhau’n araf) ar Ă´l mis Mai 2021.
⢠Darparu cymorth a monitro pan fuân rhaid iddi roiâr gorau i gymryd ei meddyginiaeth lithiwm reolaidd (cyffur ar gyfer trin anhwylderau hwyliau) ym mis Rhagfyr 2021.
⢠Nodi a gweithredu ar faterion a godwyd mewn gwiriadau iechyd corfforol.
Canfuâr Ombwdsmon y bu rhai diffygion yn y gofal a ddarparwyd i Ms A.
Roedd ei chynllun gofal yn nodiân glir ymweliadau cartref ar gyfer pigiadau, ac nid oedd y rhain bob amser yn cael eu trefnu ymlaen llaw ac weithiau nid oeddent yn cael eu cynnal o gwbl. Nododd hefyd nad oedd y cymorth aâr monitro a ddarparwyd i Ms A pan gafodd ei chynghori i roiâr gorau i gymryd lithiwm yn ddigonol, ac ni chafodd iechyd meddwl Ms A ei fonitro. Cadarnhawyd y ddwy agwedd hyn oâr gĹľyn.
Ni nododd yr Ombwdsmon unrhyw fethiannau mewn cysylltiad ââr gwiriadau iechyd corfforol ac ni chadarnhaodd yr agwedd hon oâr gĹľyn.
Nododd yr Ombwdsmon hefyd bod rhai cofnodion clinigol arwyddocaol wediâu gwneud yn y cofnodion a ysgrifennwyd â llaw ac nad oeddent wediâu cofnodi ar y system electronig CMHT. Felly, nid oedd penderfyniadau a newidiadau ag arwyddocâd clinigol ar gael i bob clinigwr a oedd yn gysylltiedig â gofal y claf.
Noder: Mae crynodebauân cael eu paratoi ar gyfer yr holl adroddiadau a gyhoeddir gan yr Ombwdsmon. Gellir gosod y crynodeb hwn ar wefan yr Ombwdsmon a gallai gael ei gynnwys mewn cyhoeddiadau a gyhoeddir gan yr Ombwdsmon a/neu mewn cyfryngau eraill. Os hoffech drafod y defnydd oâr crynodeb hwn, cysylltwch â swyddfaâr Ombwdsmon.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylaiâr Bwrdd Iechyd (o fewn 1 mis) ymddiheuroân ysgrifenedig i Ms A am y diffygion a nodwyd yn ei gofal.
Argymhellodd hefyd y dylaiâr Bwrdd Iechyd (o fewn 3 mis):
⢠Sicrhau bod holl gofnodion perthnasol clinig CMHT a chyngor a phenderfyniadau rhagnodi gael eu cynnwys yng nghofnodion electronig cleifion.
⢠Adolyguâr cyfrifoldebau unigol, a nodir yn y Protocol Rhagnodi a Monitro Lithiwm, rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd er mwyn sicrhau bod y rhain yn cael eu cyflawni. Dylai hyn gynnwys sut y dylid cyfathrebu ynghylch unrhyw newid i feddyginiaeth rhwng gofal eilaidd a sylfaenol.