Cwynodd Miss B am y gofal aâr driniaeth a dderbyniodd ei diweddar dad, Mr C. Yn benodol, roedd yn anhapus â diffyg gweithreduâr meddyg teulu mewn cysylltiad â choesau/traed Mr C o 2017 ymlaen, diffyg cysylltiad y TĂŽm Iechyd Meddwl Cymunedol â Mr C yn ystod yr un cyfnod, pa un a oedd gan Mr C alluedd mewn cysylltiad â gorchymyn Na Cheisier Dadebru Cardio-anadlol (âDNACPRâ) yn ystod ei arhosiad olaf yn yr ysbyty aâr oedi gydag ymateb y Bwrdd Iechyd iâr gĹľyn.
Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon gwynion Miss B. Canfu ei hymchwiliad bod meddygon teulu Mr C wedi cynnig gofal da iddo o 2017 ymlaen, nad oedd unrhyw ddiffygion yng nghysylltiadau Mr C â ThĂŽm Iechyd Meddwl Cymunedol y Bwrdd Iechyd yn ystod yr un cyfnod, bod gan Mr C alluedd pan gytunodd iâr gorchymyn DNAPCR, ac er ei bod wedi cymryd 14 mis iâr Bwrdd Iechyd ymateb iâr gĹľyn, ymddiheurodd i Miss B felly ni chymerodd yr Ombwdsmon unrhyw gamau pellach.